o'r iaith, nac ychwaith chwanegu llawer at ei ddealltwriaeth o Gymraeg llafar na llyfr, gan na châi gyfle i ddefnyddio'r geiriau hyn yn ddigon aml i'w helpu. Wrth gwrs, i ddeall yr hyn a ddarllenir, rhaid wrth eirfa ehangach nag sy'n angenrheidiol i ddeall yr iaith lafar: ond y mae terfynau i faint yr eirfa ehangach yma wrth ddysgu'r Gymraeg i'r plentyn di-Gymraeg, a phenderfynir y terfynau hyn yn fwyaf arbennig gan yr amser y gellir ei dreulio'n fuddiol i gael gafael ar ffiniau pellaf geirfa, ac ar yr un pryd ddiogelu'r maes oddi mewn. Defnyddiwyd y gair "geirfa " droeon yn yr awgrymiadau hyn a byddai gystal dweud y golygir wrtho rywbeth llawer mwy na chasgliad o eiriau yr ydys yn gwybod eu hystyr i raddau mwy neu lai. Golyga, o leiaf, y grwpiau geiriau hynny, homologau bron, sy'n frith yn yr iaith bob-dydd, a'r ymadroddion idiomatig hynny sydd bron yn gyson eu harwyddocad, ac sy'n rhan o bob deunydd darllen, hyd yn oed y deunydd symlaf.[1]
Unwaith y daw'r plentyn i ddarllen y tu allan i gylch llyfrau gosod y dosbarth, fe fydd o anghenraid rai geiriau, ac efallai, nifer fawr, y gall eu deall orau am beth amser yn nhermau ei iaith gyntaf: ac am hynny, y mae perygl iddynt aros yn eiriau ar eu pennau eu hunain, hynny yw, ni fydd yn hawdd eu cysylltu â'r grwpiau geiriau hynny sy'n ffurfio unedau ymadrodd neu briod-ddulliau, yn yr ail iaith. Bydd rhyw ymyl allanol o eiriau goddefol yn bod o hyd, tra pery'r astudio, ac nid oes achos i'w ofni, ond iddo beidio â thyfu'n ormodol mewn perthynas â'r rhan honno o'r iaith sydd o dan feistrolaeth weithredol. I sicrhau cynnydd cyson wrth ddysgu iaith, dylid bod o hyd yn troi cyfran o'r eirfa oddefol yn gyfrwng gweithredol, ac i ba raddau bynnag y gwneir hyn, bydd rhagor i'w wneud o hyd, cyhyd ag y deil y plentyn i ddarllen. Prin y mae angen chwanegu bod eisiau llawer mwy o lyfrau darllen ar gyfer y plant sy'n cymryd Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd.
(e) Gosodwyd llawer o bwyslais ar yr angen am ddatblygiad organig mewn ennill geirfa a meistrolaeth ar yr iaith, o flwyddyn i flwyddyn drwy gydol yr amser yr ydys yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Y mae'r un mor angenrheidiol, felly, ddangos mor bwysig ydyw cadw cysylltiad naturiol rhwng gwaith yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Oni bydd gan yr Athro Cymraeg yn yr ysgol uwchradd amgyffred lled sicr o'r hyn a wnaed gan y plant yn Gymraeg cyn iddynt ddod ato, ni all ddatblygu'r wybodaeth sydd ganddynt yn y ffordd fwyaf priodol. Boddhaol yw sylwi bod yr ysgol uwchradd mewn rhai ardaloedd yn cael gwybodaeth weddol gyflawn ar y pwynt hwn gan yr ysgolion cynradd cyfrannol, a pheth da fyddai gwneud hyn yn gyffredinol.
C. Dysgu Saesneg yn Ysgolion Cymru
Nid oes angen ysgrifennu'n helaeth ar y cwrs Saesneg fel iaith gyntaf mewn unrhyw fath o ysgol uwchradd. Ni fydd gwahaniaeth
- ↑ Gweler, er enghraifft, y geirfâu a gyhoeddwyd mewn cysylltiad â darllediadau y B.B.C.; "Early Stages in Welsh."