hanfodol rhwng y cwrs hwnnw a'r un a geir mewn ysgol uwchradd debyg yn Lloegr, ac fe ddylid darllen yr adroddiadau diweddar ar y pwnc, oni wnaed hynny eisoes. Rhaid, serch hynny, ychwanegu rhywbeth ar ddysgu'r Saesneg fel ail iaith.
(a) Saesneg fel Ail Iaith. Yn gyntaf, dylai'r athrawon sy'n dysgu Saesneg mewn ysgolion uwchradd gofio mai ail iaith yw'r Saesneg i blant Cymraeg, nad ydynt yn debyg o fod wedi dechrau dysgu Saesneg cyn bod yn saith oed, ac felly mai elfennol iawn yw eu gwybodaeth o'r Saesneg hyd yn hyn, a bod llawer o'u hyfforddiant cyffredinol hyd yma wedi ei dderbyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly y dylai fod, wrth gwrs, a dylai'r athrawon mewn Saesneg, yn lle gofidio am hyn, lawenhau bod y plant hyn wedi cael sylfaen gadarn mewn iaith fel y cyfryw.
Y mae'n hanfodol yn gyntaf wybod yn gywir beth yw cylch gwybodaeth y plentyn pan ddaw i mewn i'r ysgol. Nid digon i'r pwrpas hwn yw ei "farciau yn Saesneg yn yr Arholiad, neu sylwadau fel "Da iawn "neu "Gweddol " gan ei athrawon blaenorol. Yr hyn sydd eisiau yw gwybodaeth fanwl ynglŷn â maint geirfa'r plentyn, y llyfrau a ddarllenodd yn y dosbarth a'r dulliau a ddefnyddiwyd i ddysgu Saesneg iddo. Y ffordd orau i gael gwybod hyn ydyw drwy i athrawon y ddwy ysgol gwrdd â'i gilydd, ac i sicrhau hyn dylid trefnu cynadleddau cyson rhwng athrawon Saesneg yr ysgolion uwchradd ac athrawon ysgolion cynradd cyfrannol. Ni ellir pwysleisio gormod ar y ffaith fod y cysylltiad sydd rhwng yr ysgolion cynradd a'r ysgolion uwchradd ar hyn o bryd yn hollol annigonol. Y mae'r canlyniadau'n amlwg—sef diffyg cydymdeimlad, colli unoliaeth mewn nôd a dulliau rhwng y naill a'r llall nes peri niwed mawr i'r plentyn, a digalonni athrawon da pryd y gellid osgoi hynny.
Yn ail, y mae'n hanfodol sylweddoli'n eglur yr amcanion sydd i ddysgu Saesneg fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd. Yr amcan cyntaf ydyw datblygu geirfa weithredol a goddefol y plentyn mewn cynifer o gyfeiriadau ag sy'n bosibl : rhaid i'r datblygiad hwn fod yn drefnus, ac wedi ei seilio ar y feistrolaeth sydd gan y plentyn ar eirfa pan ddaw i mewn i'r ysgol. Yr ail amcan ydyw meithrin gallu'r plentyn i siarad Saesneg dylid rhoddi sylw dyledus i ynganiad, i acen, ac yn arbennig, i oslef, sydd yn aml yn cael ei esgeuluso fwyaf. Y trydydd amcan ydyw gwneud y plentyn yn ymwybodol o gefndir diwylliant Saesneg. Dylai sylweddoli'r amcan hwn yn glir gael dylanwad mawr iawn ar y llyfrau a ddarllenid a'r dulliau o'u darllen hwy. Yn y cyfnod cynnar hwn, llawer mwy gwerthfawr na gweithiau mwy dyrys a haniaethol llenorion Saesneg ydyw'r llyfrau am fywyd gwlad a thref yn Lloegr—llyfrau teithio, bywgraffiadau, hunangofiannau enwogion Lloegr, yn arbennig ei champwyr, llyfrau yn ymdrin â chwaraeon, llên gwerin, a diwylliant materol Lloegr. Y mae rhyddiaith Saesneg yn bwysicach na barddoniaeth Saesneg ac efallai mai priodol fyddai awgrymu nad ydyw gweithiau Shakespeare yn anhepgor mewn cwrs Saesneg yn y cyfnod hwn. Dylid ystyried yn ofalus pa faint y dylid ei ddarllen. Nid oes eisiau rhoddi llawer o sylw i fanion yn y cyfnod hwn: dylid