Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amcanu at gael y plant i ddarllen cymaint ag sy'n bosibl heb eu gorlwytho, ac mor gyflym ag sy'n bosibl heb eu gorflino.

Ymdrinia'r paragraff uchod yn fras â'r hyn a ddylai fod yn gyffredin i'r ysgol ramadeg a'r ysgol fodern, ac efallai y caniateir dangos y gwahaniaeth rhyngddo a'r hyn y daethpwyd i'w ystyried yn gwrs "traddodiadol " yn Saesneg yn yr ysgolion hyn. Yn gyntaf, y mae'n gosod pwyslais ar bwysigrwydd datblygu geirfa weithredol o Saesneg bob-dydd. Yr un yn ei hanfod yw'r broblem a'r hyn a ystyriwyd wrth drin dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, ac ni chafwyd ateb boddhaol iddi yn yr ysgolion uwchradd, gan mai drwy lenyddiaeth "bur," yn ddieithriad bron, yr aethpwyd ati i ddysgu Saesneg. Drwy ryddhau'r cwrs oddi wrth y duedd hon agorir y ffordd i'r cylch ehangach o ddeunydd darllen a awgrymwyd uchod, ac i chwanegu ato gellir dewis o'r amrywiaeth helaeth o lyfrau Saesneg diweddar ar wyddoniaeth. Yn ail, gosodir pwyslais ar feithrin siarad Saesneg clir a chywir. Rhaid peidio ag ystyried hyn yn rhywbeth sy'n codi o'r darllen a'r gwaith llafar yn unig yn ogystal â hyn, rhaid cael hyfforddiant uniongyrchol, ac ymarfer beunyddiol a ddylai gynnwys dril priodol. Nid oes eisiau chwanegu y dylai siarad yr athrawon osod safon uchel yn hyn o beth. Yn drydydd, pwysleisir y berthynas sydd rhwng astudio unrhyw iaith—Saesneg yn y cyswllt hwn yn awr a'r prif elfennau yn niwylliant a thraddodiad y bobl sy'n siarad yr iaith honno. Felly gosodir sylfaen gadarn i astudio llenyddiaeth, ond ni ellir pwysleisio gormod mai wedi gadael cyfnod y Dystysgrif Ysgol y dylai'r plentyn ddechrau astudio llenyddiaeth "bur" ail iaith o ddifrif.

Fe welir y gellir cymhwyso'r egwyddorion cyffredinol hyn yn yr un modd at gynllun yr ysgol ramadeg a'r ysgol fodern fel ei gilydd, a hynny am resymau da. Y radd yn hytrach na'r math fydd yn gwahaniaethu felly yn yr ysgolion. Efallai y bydd hi'n bosibl i'r ysgol ramadeg ymdrin yn fwy manwl ag agweddau ffurfiol a dadansoddol astudio iaith, ac y bydd yn rhaid i'r ysgol fodern gymryd mwy o amser i feistroli rhai agweddau ar y medrusrwydd sylfaenol. Y mae'r gwahaniaethau hyn yn amherthnasol; yr hyn sydd yn perthyn yn agos i'r broblem ydyw y dylai pob ysgol sylweddoli'r elfennau angenrheidiol mewn astudio ail iaith, a'u trefnu yn ôl eu pwysigrwydd.

(b) Y Plentyn Is-Normal. Y mae un broblem, fodd bynnag, yn wynebu'r ysgol fodern—a honno'n broblem na ddaw ond yn anaml, os o gwbl, i ran yr ysgol ramadeg, sef problem y plentyn o gyraeddiadau meddyliol isel. Y mae ceisio dyfalu i ba raddau y dylai neu y gall y fath blentyn ddilyn unrhyw astudiaeth ffurfiol yn yr ail iaith, yn peri llawer o bryder yn aml, ac anodd ydyw cynnig ateb pendant gan na wnaed ymchwiliad i'r pwnc hyd yn hyn. Ar y lefel isaf, wrth gwrs, y mae'r ateb yn amlwg. Y mae'r plentyn sydd heb feistroli elfennau darllen ac ysgrifennu yn ei famiaith, yn analluog i wneud astudiaeth ffurfiol o ail iaith, pa un ai Cymraeg, ai Saesneg fo'r iaith honno. Ond anaml y mae'r broblem mor syml å hyn: yn amlach rhaid penderfynu pa faint o astudio ail iaith a fydd yn fuddiol i'r