plentyn, a beth fydd y llwybr gorau i'r astudiaeth honno. Wrth eu hystyried yn eu perthynas â phob plentyn yn unigol y gellir ateb y cwestiynau hyn, ond gellir awgrymu dau beth yn gyntaf, dylid cofio mai anaml y metha cynllun o waith llafar, sydd wedi'i lunio'n ofalus ag ennyn diddordeb mewn ail iaith, yn arbennig pan gysylltir ef â gweithgareddau corfforol â chrefftau ac â cherddoriaeth a drama. Yn ail, er na bo hi'n bosibl, efallai, i ymgymryd ag astudiaeth ffurfiol o ail iaith, gellir gwneud llawer drwy ddarlun a stori i ddiddori'r plentyn yn niwylliant y genedl sy'n siarad yr iaith honno.
4
Cyfrwng Hyfforddiant
HYD YN HYN, DELIWYD Â'R SAESNEG A'R GYMRAEG FEL PYNCIAU YN UNIG yn y maes llafur. Rhaid ystyried, yn awr, i ba raddau y gellir defnyddio'r naill a'r llall fel cyfrwng hyfforddiant.
Nid oes dim i'w ofni ynghylch y Saesneg. Y mae iddi le parchus, ac yn y mwyafrif o'r ysgolion uwchradd hi biau'r unig le, fel cyfrwng hyfforddi. Felly, i'r defnydd a wneir o'r Gymraeg fel cyfrwng y mae eisiau rhoddi sylw, ac i'r rhesymau paham y dylid rhoi mwy o le i'r Gymraeg fel cyfrwng hyfforddi yn yr ysgolion lle bo'r Gymraeg yn famiaith i'r plant i gyd, neu bron i gyd.
Yn gyntaf, dyna'r fantais amlwg a ddaw i ran plant felly. Y mae eu gwybodaeth o'r iaith yn ehangu, ac fe ddaw yn gyfrwng mynegiant mwy hydwyth ac ystwyth iddynt. Cynydda eu parch at yr iaith: yn lle bod yn unig yn gyfrwng ymddiddan bob dydd yn y cartref ac ar y stryd, ac yn colli ei min trwy fod mor gynefin, fe ddaw'r iaith yn gyfrwng ysgolheictod a diwylliant ehangach, ac fe'i defnyddir nid yn unig gan yr athro Cymraeg sydd yn rhinwedd ei swydd yn gorfod ei defnyddio, ond hefyd gan athrawon eraill ar y staff. Yn ail, bydd y plant yn eu blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol yn debycach o ddeall egwyddorion sylfaenol y pynciau eraill, yn arbennig y pynciau newydd sy'n cael eu trin. Ni bydd ganddynt eto ddigon o Saesneg at hyn, ac annheg â hwynt yw peidio â defnyddio eu mamiaith. Sylweddolwyd hyn gan rai ysgolion uwchradd yn yr ardaloedd Cymraeg, a disgwylir i athrawon a benodir i ddysgu'r dosbarthiadau isaf, feddu gwybodaeth o'r Gymraeg. Wrth symud i fyny drwy'r ysgol bydd yn bosibl i'r plant gael eu hyfforddi drwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg, a bydd eu gwybodaeth o'r ddwy iaith ar ei hennill wrth hyn. Yn drydydd, dyna'r fantais i'r iaith Gymraeg ei hunan. Cyhyd ag y cyfyngir yr iaith fel cyfrwng mynegiant yn fwyaf arbennig i feysydd gwybodaeth