Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Broblem Ddwyieithog yn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel Llenyddiaeth ac Addysg Grefyddol, y mae'n amlwg mai cyfyng fydd ei chylch. Anaml y defnyddir y Gymraeg i ddysgu Gwyddoniaeth a phynciau tebyg, ac eto dyma'r pynciau sy'n cael mwyaf o sylw heddiw. Heb yn wybod inni daethom i dderbyn y sefyllfa ymha un y rhoddir i'r naill iaith a'r llall ei phriod gylch o ddylanwad. Erys y Gymraeg yn iaith llenyddiaeth, yn iaith yr eisteddfod a'r pulpud a'r capel, tra datblyga'r Saesneg yn iaith naturiol i fusnes a gwyddoniaeth. Dyma gyfyngu anffodus ar swyddogaeth iaith. Y mae'r iaith na all ymdrin â phob agwedd ar ei byd cyfoes, yn dechrau colli tir. Rhaid i iaith, os ydyw am fyw, ddal i ehangu, i ymgyfaddasu, i gyfleu gwybodaeth newydd mewn meysydd newydd, i lunio geiriau newydd, i fenthyca oddi ar ieithoedd eraill, i gryfhau ei thafodieithoedd sydd yn rhoi bywyd newydd yn yr iaith lenyddol, ac i wneud yr iaith lenyddol honno yn gyfrwng ystwyth i gyfleu gwybodaeth a syniadau. Rhaid felly i'r iaith Gymraeg dyfu yn y ffordd hon, fel yn wir y gwnaeth yn y gorffennol. A chan fod yr ysgolion uwchradd a sefydliadau addysg uwchradd yn ganolfannau i ledaenu gwybodaeth a diwylliant efallai mai hwy i raddau helaeth a fydd yn penderfynu tynged yr iaith Gymraeg. Anawsterau geirfa, a gofynion arholiadau yw'r rhesymau a roddir yn aml dros beidio â defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu pynciau modern. Nid ydyw'r cyntaf mor anodd ag y dywedir yn aml ei fod: y mae geirfa gwyddoniaeth i raddau helaeth yn gyd-wladol, ond lle nad oes geiriau cymwys rhaid i'r Gymraeg ddilyn esiampl y Saesneg ac ieithoedd eraill, a llunio ei geiriau ei hunan, neu fenthyca. Yn nwylo'r athrawon y mae'r moddion i wella'r ail beth: rhaid iddynt beidio â derbyn yn wylaidd yr hyn y mae gofynion arholiad yn ei orchymyn : swydd pob cyfundrefn arholi ydyw gwasanaethu ei chymdeithas a'i hysgolion, yn hytrach na dirwasgu bywyd y ddau gymaint nes eu gwanhau a llesteirio eu datblygiad unigol grymus.

Efelychu a fu hanes ysgolion uwchradd Cymru o'r cychwyn bron. Bu llawer gormod o ddilyn patrwm yr ysgol ramadeg yn Lloegr, mewn maes llafur ac mewn dulliau, heb roddi llawer o ystyriaeth i broblemau eu hiaith eu hun. Rhaid peidio ag anghofio nad oedd gennym gyfundrefn addysg genedlaethol y gellid gwneud yr ysgolion uwchradd gramadeg yn rhan ohoni, ac mai nôd materol cyfyng oedd gan ei sefydlwyr (er y gallai'r ysgol gynradd fod wedi cael patrwm da yn yr Ysgol Sul Gymraeg). Byddai'n beth da inni ganolbwyntio ein sylw nid yn gymaint ar feirniadu arferion ddoe a heddiw o fan ffafriol rhyw ragoriaeth helaeth, ond yn hytrach ar ofyn i ni ein hunain a roddodd ein cyfleusterau ehangach weledigaeth gyfatebol glir i ni ar y broblem ddyrys hon. A fedrwn ni ddweud bod yr ysgol uwchradd mewn gwirionedd wedi symud, yn ei hamcanion a'i dulliau, i unrhyw raddau sylweddol oddiwrth y ffyrdd efelychol a thraddodiadol, a'i bod yn ei chymhwyso'i hun at y gwaith o ddiogelu genedigaeth fraint plant Cymru heb esgeuluso'i rhwymedigaeth i'w paratoi ar gyfer galwadau'r byd modern? Gan fod addysg uwchradd, bellach, yn cael ei hestyn i bawb, cyhoeddwyd y pamffled hwn i fynegi'r broblem, i awgrymu atebion posibl ac i wahodd ymdrechion pellach.