Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ATODIAD
Rhai figurau yn dal perthynas â safle'r Gymraeg yn holl Ysgolion Gramadeg Cymru yn Ebrill 1946
| A. (i). Nifer yr ysgolion na roddent ddewis rhwng Cymraeg a phwnc arall, ond lle cymerid yr iaith gan bawb (neu bron bawb) o'r disgyblion, i fyny i'r arholiad gadael ysgol. | 11 (mewn ardaloedd Cymraeg.) |
| 3 (mewn ardaloedd Seisnig.) | |
| (ii) Nifer yr ysgolion yn rhoi'r dewis, Cymraeg neu Ffrangeg drwodd | 18 |
| (iii) Nifer yr ysgolion yn rhoi'r dewis, Cymraeg neu bwnc arall (Ffrangeg fynychaf o lawer) ar ôl y flwyddyn gyntaf. | 37 |
| (iv) Nifer yr ysgolion yn rhoi'r dewis, Cymraeg neu bwnc arall (Ffrangeg fynychaf o lawer) ar ôl y ddwy flynedd gyntaf. | 23 |
| (v) Nifer yr ysgolion a nododd y Gymraeg fel pwnc dewisol. | 8 |
| (vi) Nifer yr ysgolion lle na ddysgid dim Cymraeg. | 24 |
| (vii) Heb eu dosbarthu | 28 |
B Enghreifftiau o ysgolion mewn ardaloedd Cymraeg, lle ceid nifer sylweddol o blant yn siarad Cymraeg, ond heb fod yn astudio'r iaith o gwbl.
| Cyfanrif y disgyblion | Yn Siarad Cymraeg | Cyfanrif yn cymryd Cymraeg | Nifer na chymerent Gymraeg |
| I. 286 | 245 | 143 | 102 |
| II. 444 | 249 | 172 | 77 |
| III. 272 | 247 | 187 | 60 |
| IV. 335 | 223 | 180 | 43 |
Mewn pedair o'r siroedd lle siaredir mwyaf o Cymraeg, ceid cyfanrif o 826 na chymerent y Gymraeg o gwbl yn yr ysgol uwchradd.