Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau Cymreig yn ddeugain, tringain, a mwy, o filldiroedd. Cerddodd ef unwaith 72ain o filldiroedd mewn un Sabboth, a phregethu dair gwaith! Teimlodd braidd yn stiff un bore wrth godi, wedi teithio y dydd cyn hyny o Lanidloes i Drelai, yn ymyl Caerdydd, y pellder o agos i gan milldir!!

Ymddengys fod Mr. Anwyl yn un o haneswyr goraf Cymru; nid yn unig yn henafiaethau a thraddodiadau ei wlad ei hun, ond mewn ystyr gyffredinol. Yr oedd yn ddaearyddwr da; ac y mae tuedd naturiol mewn hanesineth gyffredin a daear- yddiaeth i eangu y meddwl am weithredoedd Duw, ac am symudiadau, gweithredoedd, a chymeriadau dynion. Cof genym dreulio dau ddiwrnod gyda Mr. Anwyl yn Nhreffyn- non yn y flwyddyn 1849; aethom gydag ef trwy y dref a'i chymydogaethau, a theimlasom ddyddordeb mawr yn yr hanes a roddai am y fan hon, a thraddodiad y fan arall, ac yn yr hen draddodiadau am y Ffynnon.' Fel cyfaill, yr oedd yn anhawdd cael ei ragorach.

Yr oedd Mr. Anwyl yn meddu ysbryd gwrol; ni ddigalonai yn ngwyneb anhawsderau, ond ymwrolai i gyraedd amcan teilwng, er dringo rhiwian serth, cyn gorphwys. Er profi ei wroniaeth Gristionogol, nodwn yr hanesyn canlynol, yr hyn a gymerodd le yn 1822, pan oedd efe yn llafurio yn Nghylch- daith Caerdydd. Gwyddis yn dds yn Ngwent a Morganwg, fod Ffair Llandaf' yn un hynod am ei gwagedd, ei lluoedd, a'i phechod. Dydd Llun Sulgwyn y cedwir hi, ac y mae paroto- adau mawrion yn myned yn mlaen yno trwy y Sul blaenorol. Nis gwyddom a fu hyn mewn cysylltiad â'r ffair ai peidio: modd bynag, ni ddaeth ond dau neu dri o bobl i wrandaw Mr. Anwyl yn pregethu. Gofynodd yr achos fod mor ychydig wedi dyfod yn nghyd; a chafodd ar ddeall fod y bobl wedi myned i weled y Mountebanks. Penderfynodd yntan fyned yno, er syndod i un o'r hen bobl. Ond ei fwriad ef oedd myned yno i bregethu. Ymaith ag ef, ac ychydig o gyfeillion gydag of, a chludai un gadair, i'r pregethwr sefyllarni. Pregethodd er gwaethaf y gwageddwyr a'u hoffwyr, a thynodd lu mawr o blant diafol i'w wrandaw, a rhoddodd derfyn ar obaith elw y Mountebanks ar y pryd hwnw.

Rhagorai Mr. Anwyl yn fawr fel areithiwr o blaid ein Cen-

Q