Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.
adaeth, a dysgwylid ef gyda llawenydd pa le bynag y penodid of fel dirprwywr.
Pan oedd Mr. Anwyl yn Nghylchdaith Treffynnon, cyfar- fyddodd & thri o ddynion meddwon ar y ffordd fawr, a gofyn- odd un o honynt iddo yn y tywyllwch, 'A oes arnoch chwi mo'n hofn ni?' 'Ofni dyn!" meddai Mr. Anwyl; 'na, yr wyf fi yn ofni Daw.' Synwyd y dynion, so aeth pawb i'w ffordd. Yn mhen blynyddoedd lawer wedi hyny, pan oedd yn teith- io yn Nghylchdaith Dinbych, cyfarfyddodd dyn ig of ar yr heol; a gofynodd iddo, pa fodd yr ydoedd. Yr wyf yn iach, diolch i chwi,' oedd yr ateb; ond y mae genych fantais arnaf-nid wyf yn gwybod pwy sydd yn gofyn. Na wyddoch, mae'n debyg, Syr,' ebai y dyn dyeithr. Ond a yd- ych yn cofio i chwi, rai blynyddoedd yn ol, ryw noson gyfar- fod & thri o ddynion meddwon rhwng Treffynnon a Mostyn, ac i un o honynt droi atoch, a gofyn a oeddych chwi ddim yn ein hofni, ac i chwithau mewn atebiad ddywedyd eich bod yn ofni Duw ? O ydwyf yn dda,' ebai Mr. A. Wel,' meddai yntau, myfi oedd y dyn anystyriol hwnw; ac o'r noson bòno hyd heddyw, yr wyf finau yn ofni Duw-cydiodd y sylw yn fy ngha- lon,'meddai, gan daro ei law ar ei fynwes, 'ac y mae yma fy th.' Bu Mr. Anwyl am 16eg o flynyddoedd yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a gweithredai fel patriarch a thad tuag at yr achos. Nid gwaith a gofal bach yw cynrychioli Talaeth, a gofalu am dani yn y Gynadledd, ao ar hyd y flwyddyn. Y mae eisiau gwybodaeth, gofal, ac amynedd, i drafod holl amrywiaeth materion cyfundebol gwahanol Gylehdeithiau Talaeth. Ond cariwyd Mr. Anwyl yn llwyddiannus trwy bob perygl, pryder, ac anhawsder, a throsglwyddodd y llong yn ddiogel i ofal ei olynydd teilwng. Bu yn y Weinidogaeth Deithiol am 46ain o flynyddoedd-y cyfnod hwyaf a ganiata- wyd i un Gweinidog Cymreig-am fod y Cylchdeithiau gy- maint yn fwy llafurus yn gyffredin na Chylchdeithiau yn Lloegr: y mae llawer gweinidog yno yn medda nerth teithiol wedi bod mewn llawn waith am yn agos i 50 o flynyddoedd. Yn Nghyfarfod Taleithiol y Gogledd yn 1854, datganodd ei, feddwl mewn modd tra theimladwy, fod yn rhaid iddo, o' ddiffyg nerth, roddi i fyny ei swydd fel Cadeirydd, a'i weini-