BATTEN. WILLIAM,
dogaeth deithiol. Cynyrchodd byny deimladau dyfnion yn mhob mynwes yn y Cyfarfod; eto ymdrechid plyga i awgrym- iadau a phenodiadau rhagluniaeth oll-ddoeth Duw. Darfu i'r Cyfarfod ei anrhega à'i Arlun, a phwrs yn cynwys £40, fel arwyddion bychain o'i wasanaeth bir a derbyniol yn y Dal- aeth. Ymneillduodd, fel Uwchrif, i Rutbyn yn y flwydd- yn 1854; ond ni fu yn alluog i lafurio nemawr, byd yn nod mewn ffordd achlysurol. Ar ol bywyd mor faith o lafur bron digyffelyb, nid rhyfedd i derfyn braidd disymwth ddyfod ar ei lafur llawn. Bu farw yn Nhreffynnon, locawr 23, 1857, yn ei 70 mlwydd oed, a'r 49 o'i weinidogaeth. Rhai o'i eiriau olaf oeddynt, 'O! y mae yn werth marw, i deimlo fel hyn freichiau tragwyddol Duw odditanaf i'm cynal.' Pan oedd yn marw, dywedodd, Y mae y cwbl yn ddysglaer a goleu.' Fel byn dygwyd un o'n cedyrn i'r bedd, ar ol gyrfa o ddefnyddiol- deb a llwyddiant: ac wedi bod mewn blinderau yn helaeth- ach,' aeth i orphwys yn dragwyddol oddiwrth ei lafur ar y llawr. O ran ymddanghosiad, yr oedd Mr. Anwyl yn dál, cryf, a bywiog, wedi ei lunio i waith, a'i fwriadu i fywyd o lafur. Yr oedd yn wyneb-agored o bryd, ac yn llawn natur dda; o duedd gymdeithasgar, a dawn siarad, a danghosid dynoliaeth yn dra ffafriol ynddo fel dyn, fel Cristion, ac fel gweinidog. Dylai yr eglwysi deimlo yn ddwys symudiad eu gwŷr cryfion,' a gweddio am i'r Ysbryd Glân gyfodi dynion cymwys a pharod i bob cangen o'r gwaith da, sydd yn cynwys dychweliad ac iachawdwriaeth eneidiau, a gogoniant ein Ceidwad mewn amser a thrwy gylchoedd tragwyddoldeb. WILLIAM BATTEN A ANWYD yn Ninbych, yn y flwyddyn 1779, a chafodd ei fedydd- io yn Eglwyswen, yn Nyffryn Clwyd. Rhodiodd yn ol helynt y byd hwn hyd nes iddo gyraedd ei 23 mlwydd oed. Yn Ngwyliau Nadolig 1802, eynaliwyd Cyfarfod Chwarterol genym yn nhref Dinbych. Yr oedd y Parch. Lot Hughes yn bresenol. Pregethodd Mr. R. Harrison, Llanorgain, a Mr. Bryan. Testyn Mr. Bryan oedd Luo xiii. 6-9. Yr oedd Mr. Batten y noson hòno (nos Calan) yn y dafarn. Yn min