Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y nos, dywedodd un o'r cwmpeini, Y mae Mr. Bryan yn pregethu heno yn nghapel y Wesleyaid, a dde'wch chwi yno P' Bu gweinidogaeth Mr. Bryan y noswaith hono yn foddion i ddychwelyd Wm. Batteu. Gwnai y pregethwr apeliadau agos a dwys; a phan ddaeth at y geiriau, Tor ef i lawr, pa- ham y mae yn diffrwytho y tir;" a phan yn gweddio, 'Gad ef y flwyddyn hon hefyd,' penderfynodd roddi ei hunan i'r Arglwydd, ac i'w bobl yn ol ewyllys Duw. Yn y flwyddyn 1803 y tueddwyd ei feddwl i bregethu, a mynegodd ei deimlad wrth y Parch. Owen Davies, yr hwn a ystyrid yn dad gan yr holl weinidogion y pryd hwnw. Pregethodd yn Nautglyn, Cerigdderwyddon, Henllan, Llandyrnog, a rhai manau ereill. Ar ol byny, pregethodd ei bregeth brawf yn nghapel Dinbych, o flaen Mr. O. Davies, yr hwn oedd yn y pulpud tu cefn iddo. Yr oedd yr hen fardd Twm o'r Nant' yn gwrandaw; ac wedi gorphen y cyfarfod, daeth y bardd at Mr. Batten, a chan roddi ei law ar ei ysgwydd, dywedodd, 'Da machgen i, dal di ati. Yr oedd tón y llais, y llaw, a'r person a'i gosododd, yn galondid mawr i'r bachgen Batten. Yn y flwyddyn 1804, penodwyd ef i Gylchdaith Rhuthyn a Dinbych: ymestynai cylch ei lafar i sir Drefaldwyn. Yr oedd sel, diwydrwydd, a gwres yn hynodion gweinidogaeth Mr. Batten. Yn y flwydd- yn 1807, sefydlwyd ef yn Merthyr Tydfil, a bu ei lafur yn dra bendithiol i lawer o weithwyr Gwent a Morganwg. Coron- wyd ei lafur mewn llawer Cylchdaith & llwyddiant. Yn y flwyddyn 1828, dewiswyd ef i fod yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a bu bedair blynedd yn y swydd bwysig bòno.. Wedi llafurio llawer yn y Gogledd a'r Deau, gorfodwyd et i orphwys, fel Uwchrifiad, yn 1843, ac aeth i Gylohdaith Llan- fyllin i fyw. Pregethai fyth yn ol ei nerth, ac yn lled gyson ar y Sabbothau. Ei destyn olaf oedd, Yr hauwr a aeth allan i hau,' Awst 24, 1864. Yn ei gystudd yr oedd yn dra ded- wydd. Yr oedd yn ddyn o feddwl craffus a pharod, o dymher siriol, a rhodini yn agos gyda Duw. Rhai o'i eiriau olaf oeddynt, Digonir fi, pan ddihunwyf, a'th ddelw di.' Bu farw yn Llansantffraid-yn-mechain, Medi 1, 1864, yn ei 86 mlwydd oed, ac 61 o'i weinidogaeth.

Q