Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

JOSEPH BEAUMONT, M. D.,

OEDD fab i'r Parch. John Beaumont, gweinidog Wesleyaidd; & ganwyd ef yn Castle Donington, swydd Leicester, Mawrth 19, 1794. Dychwelwyd ef at yr Arglwydd pan oedd yn Ysgol Kingswood. Pan ar ei rwymwasanaeth, danghosodd ddiwyd. rwydd mawr mewn diwyllio ei dalent fel meddyg, a gwnaeth gynydd parchus, tra yr ymgeisiai fyned rhagddo ar gynydd Duw hefyd. Yn Macclesfield, eisteddai dan weinidogaeth y Parch. Melville Horne yn aml, a chafodd les mawr trwy hyny. Darfu i rai o'i gyfeillion ryddhau ei ffordd i fyned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig; ond dewisodd aros gyda'r Wealeyaid, a derbyniwyd ef ar brawf gan y Gynadledd yn 1813. Gwelwyd yn fuan ei fod yn ddyn mwy gobeithiol na'r cyffredin, so ymroddodd i'w waith gyda dyfalwch a sel mawr. Llafuriai dan anfanteision hynod o herwydd diffyg yn nhaflod ei enan, fel ag i beri attal ar ei leferydd; ond trwy benderfyniad cryf, a defnyddio llafn arian i leihau y gwagle. yn nhaflod y genau, daeth yn llefarwr hyawdl a phoblogaidd. Cyrhaeddodd enwogrwydd mawr fel pregethwr, a byddai galw parhaus am dano i wasanaethu mewn cysylltiad â chylch- wyliau capeli, ysgolion Sabbothol, &c. Llafuriodd yn galed a diarbed. Nis gwyddom iddo erioed ymddangos fel awdwr, ond y mae amrai o'i bregethau wedi ymddangos yn y London Penny Pulpit, a chyhoeddiadau o'r fath, & gipiant bregethau a draddodir yn ddiysgrif er mwyn eu gwerthu. Cynwysai ci bregethau bob amser for a sylwedd yr efengyl, a gafaelai yn y gwirioneddau mwyaf pwysig, hanfodol i iachawdwriaeth dynion. Yr oedd yn dra hapus yn ei ymhelaethiad, a dang- osai ardderchogrwydd yn fynych wrth drin ei bynciau. Wedi gwresogi, byddai ei ystumiau yn amrywiol a chynhyrfus; siglai ei ben ar brydiau, nes y cuddid hanner ei wyneb gan ei wallt; ond ar y fath adegau byddai yn sicr o gludo ei gynull- eidfa gydag ef, a thywalltai ffrydiau nerthol o hyawdledd efengylaidd gyda grym a swn y rhaiadr. Defnyddiai eiriau ansathredig yn ei bregethan, yr hyn a ystyrir yn gyffredin yn