feius; ond yr oedd ei ddawn yn aml yn rhuthro ac yn ymdori
fel tân y foelfre ar ol hir dwrw, ac felly nid arosai gyda phethau bychain. Cafodd llusws eu bendithio dan ei weinid- ogaeth. Cymerai olygiadau cryfion neillduol ar ddynion a mesurau, & mynegai ei feddwl yn ddibetrus, yn anfoneddig- sidd i'r ymddanghosiad, ac weithiau ymosodai ar bersonau yn bytrach na phethau. Cariai ei opiniwn yn y Gynadledd i eithafoedd, er fod pawb yn credu ei fod yn gywir. Yr oedd o galon hael. Neillduolrwydd ei dymher a rydd gyfrif, fe allai, am chwithigrwydd rhai o'i sylwadau mewn pwyllgorau. Pregethodd amrai weithiau yn Nghymru; ac yr oedd yn un o'r rhai oedd yn gweini yn agoriad ein capel Cymreig ya Merthyr Tydfil.
Gwanychodd ei iechyd beth amser cyn ei farwolaeth; ac i'r dyben i ymadfywio, cymerodd daith i ffynnonau Germany, ond ychydig o les a gafodd yno. Ar ei ddychweliad adref, yr oedd yn awyddus i gymeryd ei ran lawn mewn llafur gweinid- ogaethol; ac ymddengys iddo ei gario tuhwnt i'w nerth corfforol. Codai ei awydd i wneyd daioni uwchlaw pob teimlad o wendid cord, ac ymddanghosai yn llawn o gariad at Dduw a dyn. Cyfeiriai ei ymddyddanion yn mhlith pobl ei ofal at bethau ysbrydol yn hollol. Bore dydd Sul, Ionawr 21, 1855, ymddanghossi gystal ag y bussai er's tro, a siaradai yn siriol am gyflwr ei iechyd. Aeth i gapel Waltham street, Leeds, i bregethu; a chyn i'r pennill cyntaf o'r hymn gael ei ganu drwyddo, cyffrowyd, a syrthiodd ya y pulpud. Ym- ddengys iddo farw y mynyd y cwympodd. Fel hyn y terfyn- odd y gweinidog poblogaidd hwn ei ddydd yn ei lafur, yn 60 mlwydd oed, wedi bod 41 o flynyddoedd yn y weinidogaeth. Gwyn ei fyd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.' Ysgrifenodd Mr. West o'r America fraslun o'r Doctor flynyddau yn ol; ac ysgrifenwyd ei Fucheddiaeth gan ei fab, yn gyfrol 8-plyg fawr.
Yn ddioed ar ol ei farwolaeth, gosododd ychydig o gyfeill- ion yn Leeds dansgrifiad ar droed i gynorthwyo y weddw a'i theulu; cafodd eu hapeliad y fath dderbyniad gan luaws yn y Cyfundeb fel y cyfranwyd £2,000 i ffurfio trysorfa.
Q
Q