JOHN BEECHAM, D.D.,
A ANWYD yn Bartholdy-le-Beck, swydd Lincoln, yn y fl. 1787. Dychweliad ei dad, pan ar wely angau, trwy offeryn- oliseth Wesleyad ymroddol a ymwelai ag ef, a fu yn foddion i'w argyhoeddi yntau, a'i arwain i ymofyn am achubiaeth i'w enaid. Wedi adnabod gras ein Harglwydd Iesu Grist, ym- drechai arwain ei gyfeillion a'i gymydogion at y Ceidwad, ac ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Darfu i'w ymlyniad wrth Wesleyaeth gostio iddo florifetio cyfeillach a nawdd y rhai hyny a'i bwriadent ef i fyned i'r Weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Meddyliasent ei gynorthwyo i hyny, ac ymbarotoisant i'r gwaith. O herwydd y cyfryw gyfnewidiad yn ei amgylchiadau, aeth i fasnach; ond yn y diwedd, rhydd- hawyd ei ffordd i'r Weinidogaeth Wesleyaidd. Penodwyd ef i Gylchdaith yn 1815; ac am yr un mlynedd ar bymtheg can- lynol, llafuriodd mewn amrai Gylehdeithiau gyda chymerad- wyseth a pharch cynyddol. Cyrhaeddodd gryn wybodaeth dduwinyddol a chyffredinol pan yn ieuane, a bu trwy ei fywyd yn fyfyriwr diwyd a gostyngedig yn ngair Duw. Yn ei bregethau, dygai allan bethau newydd a hen. Darllenai ben- nod o'r Testament Groeg bob bore, a meddai wybodaeth mewn amrywiol dafodieithoedd Affricanaidd. Yr oedd yn dra diwyd a phrydlon yn nghyflawniad ei holl ddyledswyddau gweinid- ogaethol, ac ymwelai a'r cyfeillion, yn enwedig y oleifion, o dŷ idy. Pan yn llafurio yn Liverpool, cafodd gyfle neillduol i ddangos ei dalentau mewn trafod materion mawrion cyhoeddus perthynol i ddysgyblaeth y Cyfundeb. Mewn Cyfarfod Chwarterol yno, yn Rhagfyr, 1828, traddododd araeth a fu o wasanaeth fawr yn y Gylebdaith; a phan helaethwyd hi, ym- ddanghosodd trwy y wasg dan y teitl o Draethawd ar y Cyfansoddiad Wesleyaidd.' Ystyrir y gwaith hwn yn gamp- us, a bu ymgynghori mawr âg ef yn nherfysg Everett, Dunn, a Griffith. Dengys farn addfed, ymresymiad goleu a chryf, a deall trwyadl o'r pwno yr ymdrinir ag ef. Yn 1831, apwyntiwyd ef yn un o'r Cofiaduron Cyffredinol
Q