Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

10 10 Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.

Cenadol, a threuliodd weddill ei oes yn Llundain, fel un o brif gyfarwyddwyr ein Cymdeithas Genadol fawr. Am bedair blynedd ar hugain llafuriodd yn ddiwyd yn y swydd bwysig hon, a danghosodd fedr arbenig i gyfarfod âg amgylchiadau anhawdd a dyrys, i ba rai y teflid y Gymdeithas yn achlysurol, o herwydd rhyw helyntion & godent mewn parthau tramor, yn effeithio ar y Cenadon a'r Genadaeth Wesleyaidd.

Dywedid ei fod mor hysbys yn naearyddiaeth y parthau yn mha rai y llafuriai y Cenadon dan ei ofal, yn enwedig tir Gorllewin Affrica, a'r Gweinidogion eu hunain a bregethent yno. Yr oedd ei wybodaeth yn hanes y llwythau Affricanaidd yn rhyfeddol. Yr oedd yn wybodus, pwyllog, craffus, a chofus. Edrychai ar bynciau mawrion a chyhoeddus megys o bob cyfeiriad-eu natur, eu canlyniadau tebygol da neu ddrwg, &c. Meddai ddawn i lunio, trefnu, a llywodraethu mewn graddau tuhwnt i'r cyffredin; a phan yr ymgymerodd A'r swydd Gofiadurol, ar ddymuniad y Gynadledd, ymddengys ei fod y dyn addas mewn lle addas. Teimlid fod achos y Gym- deithas yn wastad yn ddiogel yn ei law ef, mor bell ag y gall dyn fyned. Pan ddeisebid y Llywodraeth, yn enwedig y Foreign Secretary of State, Doctor Beecham, yn gyffredin, a gyflawnai bwys y gwaith; a gwnai hyny yn effeithiol hefyd. Yr oedd efe yn un o'r prif ddynion a lwyddodd i ddwyn New Zealand a'i Chenadaethau Cristionogol, o dan nawdd y Llyw- odraeth Brydeinig, ac i ddwyn tiroedd so eiddo ereill y pen- Bethiaid yn ol iddynt o ddwylaw Ewropiaid lladronllyd a dibyriog, pa rai a'u hyspeiliasent trwy dwyll neu drais. Y mae llawer mesur da, ag sydd hyd heddyw yn effeithio yn hapus ar ddynoliaeth a chrefydd yn y Trefedigaethau Pryd- einig, wedi cael eu gwasgu yn llwyddiannus ar ein Llywodr aethwyr ganddo ef ac ychydig ddynion o'r un ysbryd a swydd. Treuliodd gryn smser, yn mlynyddoedd diweddaf ei fywyd, i ffurfio y ffordd oraf i gyfansoddi Cynadleddau newyddion yn Ffrainc, Australia, Canada, ac America Brydeinig Ddwyrein- iol, sef Newfoundland, &c. Yn 1855, anfonwyd ef fel dir- prwywr, yn meddu llawn alluoedd, i sefydlu Cynadledd newydd yn y parth olaf a enwyd, ac i selio cyfluniad Cynadl edd Canada. Yr oedd ganddo orchwyl mawr, oblegid fod Google