Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

BENSON. JOSEPH,

sefyllfa y gwahanol enwadau yn Canada &'r Llywodraeth yn myned dan gyfnewidiad mawr. Yr oedd pwnc y 'Clergy Reserves, neu arian a delid i bob enwad yno i gynorthwyo crefydd, ar gael ei attal; ond llwyddodd efi derfynu y mater dyrys hwn i foddhad cyffredinol, ond nid heb ofnau a phryder mawr. Dychwelodd o'r negesiaeth uchod mewn pryd i adrodd ei deithiau a'i lwyddiant cyn i Gynadledd y flwyddyn hono der- fynu; a mawr y dyddordeb a ddangoswyd ynddo ef a'i waith. Dywedir i'r gorchwyl hwn drethu ei alluoedd corfforol a meddyliol yn ormodol.

Cafodd ei radd o D. D. lawer o flynyddoedd cyn ei farwol- seth, gan un o Brif Ysgolion America.

Yn 1850, dewiswyd ef i fod yn Llywydd y Gynadledd; ac mewn amser o flinder hwyliodd y llong yn ddiogel trwy a thros donan terfysg. Ymwelodd, yn haf 1851, à Chaerdydd, i lywyddu gorchwylion Cyfarfod Taleithiol y Deau; a dang- osodd ysbryd o gydymdeimlad, o serch, ac arafwch. Ymad- awodd yn mharch Cristionogol yr holl Weinidogion. Pa fwyaf yr adnabyddid ef, mwyaf oll y deuai ei ragoriaethau a'i werth i'r golwg.

Llafuriodd yn gyhoeddus hyd o fewn ychydig wythnosan i'w farwolaeth. Yr oedd ei orian diweddaf yn dawel. Yr oedd y cwbl yn sicrwydd a diogelwch. Gofynodd un iddo ychydig fynydau cyn iddo ehedeg ymaith, 'A wyddoch chwi, Syr, eich bod yn marw ? Na wn,' obai efe; ond y mae pobpeth yn dda.' Wrth un arall, dywedodd, Dyns y rhai dysglaer; y maent yn aros am danaf fi; caf fod yn fuan gyda hwynt. Y mae pont arw a dreiniog i groesi, ond bydd drosodd yn fuan.' Llesgaodd i'r bywyd pur, Ebrill 22, 1856, ya 68 mlwydd oed.

JOSEPH BENSON, A.C.,

YDOEDD Weinidog o enwogrwydd mawr fel pregethwr ac ys- golbaig. Ganwyd ef yn Melmerby, yn mhlwyf Kirk Oswald, swydd Cumberland, ar y 25ain o Ionawr, 1748. Amsethwr parchus oedd ei dad, a bwriadai godi ei fab i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd Mr. Benson yn hoff iawn o lyfrau er yn fachgen, sc anfynych yr ymddifyrai gyda'i gyd-