12 Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.
ysgolorion. Derbyniodd elfenau ei addysg foreol gan Wein- idog Presbyteraidd, yr hwn a gadwai ysgol yn y plwyf. Nid ymfoddlonai ar gyraedd gwybodaeth o lenyddiaeth hen Roeg a Rhufain, ond awyddai am wybodaeth mewn duwinyddiaeth. Ymroddai i ddarlleniad manwl a dyfal; a meddai ystyriaeth, pan yn dra ieuane, o werth amser. Yr oedd wedi ymgynefino & chaledi yn fore, a chafodd iechyd da hyd yn agos i derfyn ei oes. Weithiau ai gyda gweision ei dad à phawliau ganddynt, mewn ymchwil am ddefaid a allent fod yn orchuddiedig yn yr eira. Pan yn ddeunaw oed, dychwelwyd ef at yr Arglwydd trwy offerynoliaeth perthynas iddo, ag ydoedd yn perthyn i'r Wesleyaid. Yn fuan wedi ei ddychweliad at Dduw, dygwyd ef i sylw y Parch. John Wesley, yr hwn a'i penododd ar yr 1leg o Fawrth, 1766, yn Athraw Ieithyddol yn Ysgol Kings- wood, yr hon a sefydlesid ganddo ef. Yr amser yma, cawn fod amrai benderfyniadau pwysig wedi eu llunio gan Mr. Benson i ymarweddu wrthynt; sef, codi am bedwar yn y bore, prynu yr amser, peidio myfyrio dim diles, bod yn ofalns i barhau mewn gweddi ddirgel, i gyfeirio yn mhob peth at ogoniant Duw, ac i addysgu y plant yn y wybodaeth fwyaf ddefnyddiol, ac yn enwedig yn egwyddorion crefydd. Tra yn Kingswood, darllenodd lawer o'r llyfrau goraf, hen a diwedd- ar, a gwnai sylwadau ar bob un.
Tua'r flwyddyn 1769, sylfaenasai Iarlles Huntingdon Goleg Trefecca, i addysgu dynion ieuaine duwiol o bob enwad i'r weinidogaeth. Ar ddymuniad arbenig yr larlles, cymerodd Mr. Fletcher y swydd o fod yn Bendawd y Coleg, a thrwy ei gynghor of, perswadiwyd Mr. Benson i fod yn Ben Meistr, wedi ei argymhell yn gyntaf gan Mr. Wesley. Ni fu ond tua dwy flynedd yn y swydd hono; torodd allan wahaniaeth athrawiaethol, ac ymadawodd Mr. Benson. Yr oedd er hyny mewn cysylltiad à Phrif Ysgol Rhydychain, a threuliai ran o'i amser yno. Ymddengys oddiwrth ysgrif-dyst (certificate) Iarlles Huntingdon i Mr. Benson, dyddiedig Ionawr 17, 1771, Da fu yn byw yn Nhrefecca ond naw mis. Y mae yr ysgrif dyst yn gwbl ffafriol i gymeriad llenyddol a chrefyddol Mr. Benson. Pan yn Rhydychain, cynyddodd gwybodaeth gwrth- ddrych y nodion hyn yn fawr mewn coethicithiant a gwydd-