Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

BENSON. JOSEPH,

onau, a gwrandawai ddarlithoedd ar bob cangen o sthroniaeth naturiol. Gwrthododd ei athraw ei dderbyn fel graddiwr o herwydd ei fod wedi pregethu yn afreolaidd, ac wedi cyflawni rhai gŵyriadau ereill oddiwrth y rheolau colegawl; a thrwy olyfant o amgylchiadau, rhy faith i'w crybwyll yma, arwein- iwyd ef i fod yn Weinidog Wesleyaidd.

Yn Nghynadledd Awst, 1771, y derbyniwyd ef ar brawf, ac apwyntiwyd ef i Lundain. Pan ddechreuodd ei weinidogaeth, nid oedd yr aelodau yn y cymdeithasau Wesleyaidd trwy y byd ond 31,340; ond bu ef fyw i'w gweled wedi cynyddu i 500,000. Bu yn Weinidog yn y Cyfundeb Wesleyaidd am 50 o flynyddoedd; yn Llywydd y Gynadledd ddwywaith-yn 1798 ac yn 1810; ac yn Olygydd y Cyhoeddiadau Misol Saesonig am 17 o flynyddoedd.

Fel ysgolhaig, yr oedd ei wybodaeth yn eang, manol, a beirniadol, ya holl brif awduron Groeg a Rhufain; yn y Beibl Hebreig; ac yn enwedig yn y Testament Newydd Groeg, a gallai adrodd llawer o hono o'i gof. Yr oedd yn ddarllenwr mawr a chraffus o'i ieuenctid; a chan ei fod yn meddu gallu- oedd meddyliol yn mhell tuhwnt i'r cyffredin, meistrolai bob math o awdwr a phwnc a gymerai mewn llaw. Yr oedd yn hoffwr mawr o weithiau prif awduron hen a diweddar, ond cilient oll i'r cysgod mewn cymhariaeth i'r Beibl, a'r pynciau ardderchog a ddatguddir ynddo. Meddai allu i wneyd ei ddysg amrywiol yn wasanaethgar i grefydd. Mor fawr a thrwyadl oedd ei ostyngeiddrwydd, fel y danghosai na wyddai efe ei fod yn ddysgedig, er y talai llawer warogaeth a pharch iddo ar gyfrif ei wybodaeth.

Yr oedd yn ysgrifenwr mawr a galluog. Gyrwyd ef lawer gwaith, fel Golygydd a phrif amddiffynydd Wesleyaeth, i'r cylch dadleuol; ond gofalai beidio cychwyn yn yr anturiaeth ag y mae llawer yn colli eu hysbryd a'u cymeriad llenyddol ydddi, os na fyddai hanfodion crefydd neu ddysgyblaeth mewn perygl. Pan unwaith y cymerai ran mewn 'dadleu yn mhlaid y ffydd,' ceid na byddai yn wrthwynebwr cyffredin; a chai cynyrchion ei feddwl a'i ysgrifell, ddarlleniad ac ystyriaeth yn mhell tuhwnt i gylch y Cyfundeb yn yr hwn yr oedd efe mor enwog. Yr oedd ei ysgrifau yn wastad yn ddefnyddiol, ac yn