Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y BYWORAFFYDD WESLEYAIDD.

ei ddangos ef yn ddyn o ddysg, talent, a santeiddrwydd. Gwrthwynebodd Fateroliaeth a Sociniaeth Dr. Priestly; am- ddiffynodd Foesoldeb y Beibl yn erbyn ynfydrwydd Madan; a phleidiodd Bobl, Achos, a Gwaith Duw, yn erbyn uchel- eglwysiaeth annyoddefol Tatham, Russel, ac ereill,. Ond ei brif weithiau, ag sydd yn debyg o gadw ei glod tra y bydd. crefydd yn y tir, yw Bucheddiaeth Mr. Fletcher, a'i Esboniad ar yr Ysgrythyrau Santaidd. Cyhoeddwyd hefyd ddwy gyf- rol o'i bregethan. Ychydig dros wyth mlynedd y bu yn ysgrifenu ei Esboniad: ac wrth ystyried ei waith Golygydd- ol ar y pryd, yn nghyda'i oed, y mae yn syndod iddo allu ei orphen. Cymerodd y gorchwyl mewn llaw ar ddymuniad taer y Gynadledd. Byddai yn ei fyfyrgell am bedwar neu bump yn y bore, ac hyd un-ar-ddeg y nos. Mynegodd y Gynadledd ei chymeradwyaeth ddiffuant o'r gwaith, a phleid- leisiodd £500 i'r awdwr, nid fel tål, ond fel arwydd o barch; ond gwrthododd Mr. Benson dderbyn un ffyrling.

Fel pregethwr, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf doniol a llwyddiannus yn Lloegr. Dywed y rhai a'i hadwaenent oraf, ei fod yn talu mwy o sylw i'w bethau nag i brydferthwch ar- ddull. Treuliai amser mawr i ddarparu i'r pulpud, ac ym- ddanghosai fel cenad wedi ei anfon o'r byd arall i alw dynion i gyfrif. Byddai y gydwybod yn gystal a'r glust ar waith pan yn ei wrandaw ef. Cyrhaeddodd gryn enwogrwydd pan yn ieuano, a pharhaodd i lewyrchu fel seren o'r maintioli mwyaf hyd y diwedd. Pregethai yn aml yn mhrif ddinas- oedd a threfydd Lloegr; a phan ài ar daith achlysurol trwy y wlad i bregethu ar Gylchwyliau Cenadol, Ysgolion Sabbothol, neu Gapeli, yr oedd y torfeydd a ymdyrent i'w wrandaw yn anferth, a'r casgliadau a wneid yn fawr. Mewn rhai parthau o Gernyw, byddai 5,000, 12,000, no weithiau 20,000 yn ei wrandaw.

Fe allai na ffafriwyd yr un pregethwr unigol mewn amser- oedd diweddar & chymaint o lwyddiant a Mr. Benson. Yr oedd ei destynau yn wastad yn ddewisol, a'i bynciau yn cynwys mèr yr efengyl, ac anfynych y pregethai heb fod gras mawr ar ei wrandawyr. Byddai ei apeliadau llym a dwys yn gydfynedol & gallu yr Ysbryd, yr hwn a felltenai ei wirionedd