Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

BUDGETT. SAMUEL,


trwy y dorf, a gwneid argraff ddofn ar lawer calon. Gwelwyd ugeiniau, ac weithiau gannoedd, yn cael eu dychwelyd at Dduw dan ei weinidogaeth, a byddai ei enw yn mhob man ac ardal yr ymwelai & hwy fel enaint wedi ei dywallt. Am iddo fod yn offeryn i droi cynifer i gyfiawnder, bydd coron ei or- foledd yn fawr yn nydd yr Arglwydd Iesu. Yr oedd gweddi derfynol Mr. Benson mor nerthol weithiau nes y toddid yr holl gynulleidfa; a'i ymdrech mor daer gyda Duw ar ei rhan, nes yr ymddanghosai y nefoedd megys yn agor, a theimlai pawb mai tŷ Dduw oedd yno.

Yr oedd yn un bynod am ei ysbryd rhyddfrydig tuag at enwadau Protestanaidd ereill. Pregethai weithiau mewn capeli ereill yn Llundain, ac unwaith yn nghapel y diweddar Barch. Robert Hall, yn Nghaerlan (Leicester), yr hwn a ddy- wedai wrth gyfaill am dano, mai o bawb a glywodd erioed, efe oedd yn peri iddo feddwl gryfaf am Demosthenes. Er hyny, nid hyawdledd oedd taran ei nerth, ond ei allu mewn gweddi, i sicrhau dylanwadau yr Ysbryd i gydfyned â'r gair a draddodai. Cadwai ddyddlyfr o'r holl brif bethau yn ei deimladau per- sonol, helyntion teuluaidd, eglwysig, a gwladol a gymerent le, yn nghyda nodiadau ar y llyfrau a ddarllenai. Y mae ei ddyddlyfr yn 4,000 o dudalenau mewn llawysgrifen fàn; ond ni chyhoeddwyd mo hono, oddieithr y pigion a geir yn ei Fucheddiaethau gan y Parch. James Macdonald, a chan y Parch. Richard Treffry, henaf.

Terfynodd ei oes yn Llundain, Chwefror 16, 1821, yn 73 mlwydd oed. Traddododd Dr. Bunting, yr hwn oedd y flwyddyn hono yn Llywydd y Gynadledd, ei bregeth anghladd- ol, yn Nghapel Heol-y-Ddinas (City Road): ac ar y diwedd, darllenodd fraalun campus o fywyd a marwolaeth yr hybarch Joseph Benson.

SAMUEL BUDGETT

A ANWYD yn nhref fechan Wrington, Gwlad-yr-haf, Gorph. 27, 1794. Meddai Samuel Budgett argraffiadau crefyddol yn dra bore; canys dysgai ei fam dduwiol ei theulu yn mhethau