Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.

Daw o'u mebyd. Pan eto yn dyner mewn dyddiau, dychwel- wyd ef at yr Arglwydd. Ganesid ef yn fasnachwr; & chael ben bedol ceffyl ar y ffordd, a'i gwerthu am geiniog i of, oedd decbread ei godiad a'i fawredd. Dechreuodd ar ei waith o brynu a gwerthu pan oddeutu deng mlwydd oed; se nid allai neb ei attal rhag masnachu mewn marbles, cyflaeth, wyau, &c. Pan gafodd hanner coron, fel ffrwyth ei fasnach gyf- reithlon, prynodd Lyfr Hymnsu Charles Wesley: yr oedd Hymnau Watta i Blant gan ei dad eisioes, ond ei fod yn ngholl yn y tŷ. Er cymaint ei swydd i werthu ac ennill, nid oedd y Llyfr Hymnau i'w werthu, ond i'w ddarllen a'i ganu. Yn 1801, symudodd y teulu i Kingswood, a daeth Samuel yn hynod yn ei gysylltiad a'r lle hwn. Pan ya bedair-ar-ddeg oed, aeth yn rhwymwas at ei frawd oedd lawer yn hynach nag ef, yn Kingswood. Yr oedd ganddo erbyn hyn ddeg pant ar hugain o elw clir trwy fasnachu; ond yn lle ymffrostio yn- ddynt, fel y gwna bechgyn yn gyffredin, pan yn meddu mwy o arian nag ereill o'u bath, rhoddodd y cyfan i'w rieni, y rhai oeddynt yn aml yn ymdrechu yn galed i fyw yn onest.

Wedi bod am gryn amser yn rhwymwas, anfonodd ei frawd ef ymaith cyn bod ei dymhor ar ben; ond wedi dangos medr yn ei alwad mewn shop yn Nghaerodor, mynai y brawd ei gael yn ol i orphen amser ei rwym-wasanaeth. O hyn allan, cawn ef yn cyfodi yn barchus yn ffafr ei frawd, yr hwn a welai ei werth fwyfwy. Mewn amser priodol, daeth yn un o shopwyr ei frawd, a derbyniai gyflog cynyddol o flwyddyn i flwyddyn. Yn y diwedd, daeth yn gyfranogwr yn y shop gyda'i frawd. Tra yma, cynhyrfwyd Samuel i helaethu y fasnach, a'i chwyddo i fod yn gyfanwerthol (wholesale). Dechreuodd deithio i'r pentrefi cymydogaethol i dderbyn archebion y prynwyr a ddeuent i'w shop, a llwyddodd. Aeth bellach, bellach, nes myned i Frome. Cafodd driniaeth arw yma gan rai o'r shopwyr mawr, wrth feddwl fod dyn ienano yn dyfod o Kingswood, o bob man dan haul, i gynyg nwyddau iddynt hwy. Nid oedd eisian dim ond gwrthwyneb- iad i alw egnioedd ac anianfryd Samuel i'r golwg. Ymhyf. häai gyda phob gwrthwynebiad, a llwyddai hefyd. Cafodd shopwyr Frome weled nad dyn ieuano cyffredin oedd y