BUDGETT. SAMUEL,
masnachwr o Kingswood; a gwelent, os na phrynent ganddo ef, y collent holl bryniadau siopwyr bach y lle, gan fod Samuel yn gwerthu yn rhatach iddynt nag y gallent hwy wneyd. Wedi gorchfygu anhawsderau fel hyn, a phob math o rwystrau i fasnach ymdaenol, efo a âi yn rheolaidd i deith- ian. Yn y diwedd, aeth y siop yn ystorfäau mawrion, a'r fasnach yn gyfanwerthol, gan ymestyn o Penzance i Birming- ham, ac o Hwlffordd i swydd Wilts. Yn lle meddu chwech neu saith o ddynion mewn siop, daethant yn gant a hanner; ac yn lle bod tri neu bedwar o geffylan yn gweithio, aethant yn gant mewn nifer. Gwnaethpwyd amrai gynygion dryg- ionus a gwael i ddinystrio cymeriad a masnach y brodyr; ond trwy ddiwydrwydd a medr arbenig, yn nghyda bendith Daw, hwn a biai yr aur a'r arian, llwyddent yn ngwyneb pob amcan maleisus. Yr oedd y llwyddiant yn mron yn fwy nag oedd yn en gallu i'w reoli. Cenfigonai hon fasnachdai yn ninas Caerodor wrthynt; ond heb lawer o dwrw, aent rhagddynt yn gyflym. Yn mhen blynyddau, dinystriwyd y cydfasnach- dy yn Kingswood trwy dân; ond cyfododd un fantais fawr o'r anffawd, sef symudiad y tŷ i ddinas Caerodor, yr hyn oedd yn gyfleusdra mawr yn mhob ystyr. Helacthid y fasnach fyth, a byddai yr holl dŷ fel ewch gwenyn. Masnachwyr mown ym- borth o bob math oedd y brodyr. Cafodd Samuel y cyfan i'w law ei hun flynyddau cyn iddo farw. Nid dyn am bentyru golud oedd Mr. Budgett: yr oedd am fargen dda, ac nid ài neb tuhwnt iddo yn hyny; ond nid cariad at arian a'i cy- nhyrfai, eithr ei awydd cynhenid i wthio masnach yn mlaen, a meddu moddion i wneyd daioni i ereill. Nid efe ei hun oedd yn medi yr holl olw a ddeilliai ar ben y flwyddyn oddi- wrth gyd-fasnachdy mor fawr a threfnus: cai pawb yn ei was- anaeth gyfran o'r elw-pob un yn ol ei safiad, ei ddiwydrwydd, a'i fedr. Yr oedd haelioni Mr. Budgett tuhwnt i ddarluniad, gan fod cymaint o hono yn cael ei wneyd yn ddirgelaidd rhwng y rhoddwr a'r derbynwyr. Yr oedd trysorfa yn y masnachdy i gynorthwyo y dynion mewn aficcbyd; bwrid pob dirwy am anmbrydlonrwydd i hon; ond bwriai ef £40 yn y flwyddyn iddi. Mr. Budgett a'i frawd oeddynt y rhai cyntaf i ddechreu diwygio haid o lofruddion a lladron a ymgartrefent