Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.

gerllaw Kingswood. Yr oedd Mr. Budgett yn gyfaill gwas- tadol i'r tylawd; rhoddai £60 yn wythnosol weithiau; i'r ty- lawd, mewn dull o wobr i'w ddynion, &c. Ei garedigrwydd oedd dirgelwch ei ddylanwad dros ereill; cai fwy o waith gan ddynion nag a gai dyn arall. Cynorthwyai ei holl berthynas- au. Rhoddai yn mhob dull tua £2,000 yn y flwyddyn. Yr oedd yn Bregethwr Cynorthwyol gyda ni, ond yn dra rhydd- frydig at enwadau ereill. Yr oedd yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol hyd derfyn ei oes; a meddai ddau restr egwydd- orig, y rhai a gedwid ganddo ef ei hun. Mynai y pleser, tray gallai, o wneyd daioni ei hun. Marchogai ar ferlyn weithiau ar y Sabboth, fel y gallai fyned oddiamgylch i wahodd ei gy- mydogion annuwiol i'r Ysgol Sabbothol. Taflai yr egni a'r di- wydrwydd hyny a ddanghosai mewn masnach, i'w ymdrech- iadau i wneyd daioni. Ei gymydogaeth oedd cylch ei ddyn- garwch a'i lafur duwiol ef. Nid oedd am adeiladu capeli ac ysgoldai ei hunan; ond ymdrechai ennill cydweithrediad, a llwyddai bob amser. Addawai symisu anrhydeddus o arian at ryw achos crefyddol ar yr ammod y gwnai y bobl ddyfod yn mlaen i wneyd eu rhan. Ni wnaeth neb erioed lawer mwy nag ef yn y ffordd hon. Arferai ei blant i holl ranan crefydd ymarferol. Ni ddarfu i gyfoeth [erioed fod yn fagl iddo. Gofalai am gyrff no eneidiau pawb yn ei wasanaeth. Cy- mhellai lanweithdra, gonestrwydd, cymedroldeb, a diwyd- rwydd ar bob un o'i weithwyr. Yr oedd segurdod a thwyll yn ffiaidd ganddo. Os gwelai neb yn ei wasanaeth yn sefyll yn ystod oriau gweithio, âi ato, a danghosai y fath beth pwysig, oedd colli pum mynyd; dywedai faint fyddai hyny mewn wythnos, a blwyddyn, a phe gwnai ei holl ddynion ymddwyn felly, y byddai ei golled ef yn fawr. Synai y dyn, ac edrychai o'i amgylch yn lled gyflym i fyned yn mlaen â'i orchwyl, Cassai dwyll gymaint ag y gwnai segurdod. Daeth dyn ato un tro i ddangos iddo ffordd ryfeddol o rad i wneyd finogr twyllodrus: gwrandawodd ar y dyn yn adrodd y ddyfais; ond er yr ymhonai ei fod yn Wesleyad, ac y cynygiai ffynonnell newydd o elw i Mr. Budgett, gyrodd ef o'i wydd yn dra buan, gyda' cheryddon a chynghorion dwys. Yr oedd ganddo ys- tafell fawr yn y masnachdy i addoliad teulusidd: yma yr