BUDGETT. SAMUEL,
ymgynullai yr holl ddynion nad oeddynt yn myned i'w tai i gymeryd eu boreubryd, tua 80 o honynt; darllenai ef neu ryw un arall bennod, cenid, a gweddiid. Yr oedd dylanwad hyn yn iachus a da ar y dynion. Anaml y ceid siampl o anon- estrwydd yn eu plith; ac yr oedd llawer o honynt yn ddynion gwir dduwiol.
Yr oedd Mr. Budgett yn un o'r rhai blaenaf i fyrhan oriau gweithio mewn cydfasnachdai. Tynodd oriau llafur i lawr o naw o'r gloch y nos i hanner awr wedi pump; er hyny yr oedd gwaith y dydd yn cael ei wneyd yn y dydd, a chai pawb aros hyd nes y byddai pob dyn wedi gorphen ei waith. Weithiau byddai cant yn aros i ryw ychydig o'r dynion orphen eu gwaith penodol; byddai hyny yn rhoddi egni yn mhawb i ofalu bod yn brydlon a diwyd gyda phob peth, fel na chai neb aros wrthynt hwy wedi i'r mynyd i ymadael ddyfod i fyny. Fel hyn cai y dynion hamdden i rodio er mwyn eu hiechyd, i ddiwyllio eu meddyliau, ac i feddwl am eu heneidiau. Rhodd- id ciniaw i'r dynion oll ar amsorau neillduol, a chai ou gwragedd a'u cyfeillesau ddyfod i de. Areithid ar y cyfryw achosion ar gyfodiad a chynydd y faanach, ar ryw welliant mewn golwg, ar foesau da, duwioldeb, &c. Byddai y fath gyf- arfod yn rhoddi ysbryd arall yn yr holl ddwylaw, ac ymddyg- ai pawb fel pe buasai holl nwyddau y tŷ yn eiddo iddynt hwy, Gwrthddrych y nodiadau hyn oedd un o'r rhai blaenaf i hwtio y gyfundraeth o echwyn maith mewn masnach: wyth diwrnod ar hugain oedd amser ei echwyn ef. Os gwnai rhyw brynwr beidio talu ar ben yr amser, nid oedd dim masnach i gael ei wneyd ag ef byd nes y talai. Nid allai dim na neb beri iddo wyro oddiwrth y rheol hon. Nid hir y bu cyn gweled mantais fawr arian parod. Safai a llwyddai ef tra yr elai hen gydfasnachdai yn y ddinas yn chwilfriw. Y mae arian parod wedi achub gwledydd cyfain rhag cyfyngder a dinystr. Y mae llawer o'r tai penaf yn y deyrnas yn awr yn cymeryd yr un drefn ag a gychwynodd Mr. Budgett. Yr oedd efe yn siampl bynod o'r hyn a wadir yn aml, sef, fod yn bosibl bod yn ddiwyd a llwyddiannus ar raddeg anferth, a byw yn dduwiol; ac yn hyn y mae yn ddylynwiw i holl faenach- wyr y byd gwareiddiedig.