Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.Yn ei gystudd olaf cafodd mai gwirionedd yw holl addew- idion Duw. Yn nechre ei gystudd yr oedd peth ofn yn ei flino; ond fel yr ai yn ddyfnach i'r dyffryn, eiliai pob cysgod o ofn angau a'r dyfodiant. Caumolui Dduw yn barhaus, a gollyngodd ef ei was mewn tangnefedd yn ol ei air, Mai, 1851, yn 56 mlwydd oed.
JAMES BUNDY
A ANWYD yn Dymock, yn agos i Forest of Dean, yn swydd Henffordd, yn y fl. 1750. Yr oedd ei rieni yn dylodion, ond ymdrechent i faethu eu toulu lluosog yn addysg ac athraw- iaeth yr Arglwydd. Aeth James yn forcu i wasanaeth at amaethwr; a'r deg swllt cyntaf a ennillodd, a roddwyd i dalu i feddyg am weini ar ei fam mewn cystudd. Nid allai ddar- llen pan acth gyntaf i wasanaeth: ond cafodd help rhyw ddynion ieuaine a'i gwelsent ef yn y maesydd gyda defaid ei feistr. Dysgwyd iddo y Wyddor a'r modd i osod y llythyrenau yn ngbyd i ffurfio sillau; a dyna yr holl addysg a gafodd. Argyhoeddwyd ef o bechod with wrandaw yr efengyl yn yr ardal, a chafodd ei droi at Dduw. Ar ol hyn, symudodd i Gaerodor; ac ar ei ddyfodiad yno, cafodd fod diwygiad mawr wedi tori allan yn mysg y Wesleyaid. Arweiniodd byn ef i ym- sefydlu yn y lle hwnw, a bu yn offeryn i wneyd llawer o dda- ioni yno. Wedi dysgu darllen ac ysgrifenu, cafodd swydd fel penacth darllawdy, a bu ynddi am amrai flynyddoedd, nes y galluogwyd of i gyfodi trafodiacth iddo ei hun. Fel gwas yr oedd yn siampl o ffyddlondeb: cai bob parch gan ei feistr, a chan y sawl ag oeddynt dan ei ofal of. Teimlai yn fawr dros eneidiau dynion. Yr oedd ganddo gongl yn y darllawdy i fyned i weddio dros bawb yn y lle. Ofnai mai rhith duwiol- deb oedd gan ei feistr, ac a acth ato yn barchus i fynegu ei ambeuaeth. Ond dywedodd hwnw ei fod yn camsynied. Ni wnai hyny foddloni y dyn da a selog. Y noson hono, taraw- yd cydwybod y meistr yn fawr fel nad allai gysgu, a darfu i doriad un o'r llestri gwaed gynyddu ei ofnau. Anfonodd am ei was ffyddlon yn ddioed, a dywedodd wrtho, 'O! gweddi- wch drosof: twyll ac anwiredd oedd yr hyn a ddywedais