BUNDY. JAMES,
wrthych neithiwr: nid wyf yn adnabod Duw: pa beth wnaf fel y byddwyf gadwedig?' Gweddiodd Bundy-adfer- wyd y meistr, a daeth o'r dydd hwnw allan yn dyst byw o allu gras ar galon a buchedd dyn.
Yr oedd Mr. Bundy yn fanwl iawn gyda gweddi deulnaidd, yn nghyda phobpeth a dueddai i ddangos a meithrin duwioldeb gartref. Byddai cyfarfodydd gweddi yn cael eu cynal yn ei dŷ ef, a byddai un offeiriad yn dyfod yno. Dechreuodd ar fywyd o ddefnyddioldeb cyn dyfod yn un math o swyddog yn eglwys Dduw. Ni wna rhai dynion ddim os na ddyrchefir hwy i swydd. Penodwyd ef yn flaenor gan y Parch. John Wesley, a chafodd ei gymeradwyneth i ddyfod yn Bregethwr Cynorthwyol. Byddai yn hynod o brydlon yn ei gyhoeddiad- au; ac os dywedai neb wrtho fod y tywydd yn arw, atobai, 'Nid yw yn gwlawio tân: pan wna hyny, rhaid i'r bobl beidio fy nysgwyl.' Pregethai yn fynych yn yr awyr agored i filwyr a phwy bynag a ewyllysiai wrandaw ar ei gynghorion gonest a phwysig. Tröid rhai trwy ei bregethau a ystyrid gan lawer yn wyllt ac afreolaidd. Yr oedd yn gyfaill calon i'r tylawd a'r amddifaid, a mynych yr ai o dŷ i dŷ, no i gyf- arfodydd pobl grefyddol, i ddadleu achos y cyfryw. Anfonid sypynau o hen ddillad iddo i'w rhanu fel y gwelai yn oraf. Yr oedd ei elusengarwch a'i gydymdeimlad yn fawr ac angherddol. Yr oedd unwaith mewn rhan o Gaerodor heb ddim yn ei logell i dalu am gwch i groesi yr afon wrth fyned adref: tra yn aros wrth y dwfr, daeth boneddwr ato, ac a es- tynodd iddo ddeg punt, gan ddywedyd y gwyddai Mr. Bundy pa fodd i'w defnyddio yn well nag ef! Dechreuodd eu gwasgaru, trwy fyned a llwyth o lo i'w ranu rhwng carchar- orion Newgate. Ar nos Sadwrn arferai ymweled &'r farchnad, a gwyliai y bobl dylodion nad allent brynu ond ychydig neu ddim cig, a chynorthwyai hwy yn eu hangen a'u trallod, a dychwelai i'w dŷ gyda chalon lawen am fod yr Arglwydd wedi ei alluogi i wneyd rhywfaint o ddaioni. Ymddengys oddiwrth ei ddyddlyfr iddo ymweled & deugain mil o bobl gystuddiol.
Nod arbenig yn ei gymeriad oedd ei waith yn ymweled &'r carcharorion yn y carchardai. Bu mewn perygl bywyd un-