Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Bywgraffydd Wesleyaidd.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y BYWGRAFFYDD WESLEYAIDD.

waith. Cafodd ganiatâd ceidwad y carchar i aros trwy y nos gydag un drwgweithredwr o'r enw Haynes, er ei rybyddo o'i berygl: eto efe a arhosodd. Yr oedd gan Haynes gyllell yn nghudd, ac amcanodd â'r llaw oedd yn rhydd i gymeryd bywyd ei gymwynaswr ymaith. Teimlodd Mr. Bundy am fynyd fod ei fywyd ar derfynu; ond yn ddisymwth daeth y geiriau hyny i'w feddwl, Ni byddai i ti ddim awdurdod ar- naf fi, oni bae ei fod wedi ei roddi i ti oddiuchod." Ond gorchfygodd ffydd, a chafodd y carcharor faddeuant pechod- au cyn ei ddienyddio. Aeth Mr. Bundy gydag ef at y grog- bren. Efe a aeth ar ei draed i Lundain unwaith yn achos un a garcharesid am ffug-ysgrif ar fasnachwr yno, ond yn Nghaerodor yr oedd yr euogddyn. Ar ol llawer o drafferth, efe a lwyddodd. Apeliodd at galon y tad; gan osod ei law ar ben un o blant y masnachwr, dywedodd ei fod yn gobeithio na fyddai ar y plentyn hwnw byth eisiau cael neb i ddadleu drosto am ei fywyd. Am na ddaethai yr erlynwr yn erbyn y carcharor efe a ryddhawyd. Cynygiodd ei wraig £20 i Mr. Bundy am ei drafferth, ond gwrthododd ef gymeryd dim. Gwnaeth daith i Lundain i ymweled à charcharorion lluosog Newgate, a bu yn foddion i achub amrai o honynt rhag angau tragwyddol. Mewn un carchar cafodd ddeg-ar-hugain o ddihirod yn chwareu pél, er eu bod dan ddedfryd marwolaeth. Treuliodd ddwy noson a rhan o ddiwrnod gyda hwy, gan eu gorchymyn i drugaredd Duw. Yn ystod y daith hon, siarad- odd & thros chwe chant o garcharorion, ac ni thynodd ei ddillad oddiam dano o'r amser yr ymadawodd â'i gartref hyd nes y dychwelodd.

Nid budr-elw a'i cymhellai ef i'r gweithredoedd hyn o elusen a dyngarwch. Gadawodd ei hen feistr gryn swm o arian iddo, o herwydd ei fod wedi cael ei wneyd yn fendith iddo; ond dychwelodd ef y cyfan i'r executors. Gadawodd un dyn rês o dai gwerthfawr iddo, ond dywedodd am danynt, 'Gadewch i'r etifedd cyfreithlon eu cael-ni chaiff y rhai hyn fod yn wobr i mi am lefaru ychydig o eiriau dyddanus wrth bechadur truenus pan yn marw.' Ymddanghosai holl ffrwyth- au yr Ysbryd yn nghymeriad Mr. Bundy.

Yr oedd ei allu o flaen gorsedd gras yn fawr iawn. Cafodd