Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HENAINT.

Dilynai yntau gyda'r dyrfa fawr
I frwydro fel yr ifanc am ei sedd ;
Dilynai'n brudd, a'i wyneb tua'r llawr,
Ac olion y blynyddoedd ar ei wedd;
Pan gododd cwrr y llen, hir ddadwrdd fu,
A chrynai'r neuadd eang hyd ei sail ;
Ar wyneb eilun newydd syllai'r llu,
A throi i wylo a chwerthin bob yn ail.
Disgynnodd cwrr y llen, a'i guddio dro,
Y glew a chryfder miloedd ar ei fin;
Eithr at y drws troes gwr daniasai fro,
A'i wefus mwyach megis deilen grin.
Allan yr aeth, efe a'i enaid llwm,
A'r lleuad yn ei weld yn wylo'n drwm.