Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PYSGOTWR BACH.

Mi welaf grwt penfelyn
Ar fin yr afon fach,
A chollen ystwyth yn ei law,
A llinyn hir a bach.

Mae chwerthin lond ei fynwes
Wrth weld y pysgod mân
Yn gwylltio rhag ei gysgod ef
Yn nrych yr afon lân.

Na syrthied llun yfory
Ar antur plentyn llon;
Fe'i sobrir yn rhy gynnar
Wrth afon fwy na hon.