Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mynnent, myn diawl, eu hawliau,
Ei gael o belli gell gau,
A'i weld is haul Duw a'i sêr
Yn noswylio mewn seler,
Wrthnysig, loerig gleryn,
A'i wynt yn awr ar lawr glyn!

Trist uthr y daith i'm henaid weithian,
Clywed oergri mewn llwyni llonydd,
A gweld erlid o gil y dorlan
Y truan gwyllt i oerni gelltydd.

Gweld ei ddwyn gan anfwyn haid
O wyll llwyn i wyll enaid,
Ei gael o fyd mwynbryd Men
I dŷ alaeth diheulwen;
Gweld ei ddwyn mewn cadwyni
Hyd orallt ei heurwallt hi,
A'i droi, cyn wynned â'r ôd,
I le'r dolur diwaelod ;
Troi ei wae i dduach trig
Na mynwent y Cwm Unig.