Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I ffwrdd â'r offer gwaith, i lawr â'r pwn!
Rhoed yntau'r crydd ei ffedog heibio dro!
Rhaid cyrchu'r llan bob un ar ddydd fel hwn,
Rhaid gweld priodas geneth lana'r fro;
Rhaid gweld y bugail, heriwr craig a thon,
Mewn dryswch yng nghadwyni tegwch hon.

Mewn cwmwl o wynebau cerddwn i,
A hithau'n gwrido'n fwyn ar fraich ei gwr.
Disgleiriai'r heulwen ar ei modrwy hi,
A'r gloch yn dawnsio'n wallgof yn y twr;
Ac yn y fynwent werdd lle clywsom wylo,
Clywn londer mawr, a'r coed yn curo'u dwylo.

Estynnwyd i'm hanwylyd bwysi hardd,
A darlun oedd o burdeb ei blynyddoedd.
Rhoed ynddo flodyn pêr o lawer gardd,
Ac ambell flodyn gwyllt o'r pell fynyddoedd ;
Ond tystiai'r hen fugeiliaid yn gytun
Mai'r blodyn harddaf ydoedd Gwen ei hun.