Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelwn y faenor draw yng nghoed y cwm,
Gwelwn fy nhad yn ddeiliad megis cynt;
Gwelwn y truan tlawd, a'i war yn grwm,
Yn trin y maes dan waetha'r glaw a'r gwynt.
Gwelwn mor ddrud cedd erwau'r doldir bras,
Gwelwn mor rhad oedd chwŷs a gwaed y gwas.

Sawl gwaith y llwybrodd hyd y gweundir oer
Heb lewych dydd i'w dywys ar ei daith?
Sawl gwaith y dringodd heb oleuni'r lloer
I'w arwain adref wedi'r llafur maith?
Sawl nos a'i canfu'n gado'r faenor draw,
A'i bymtheg ceiniog yn ei greithiog law?

Gwelwn fy mam yn tolio'i thamaid sych
Er cadw'r newyn oer rhag cwrdd â'i phlant ;
Gwelwn y brithyll mwyth yn llamu'r crych,
A'r crëyr obry'n glythu yn y pant;
Ond beth pe cerddai deiliad llwm y plas
I fedi'r dyfroedd gyda'r creyr glâs?