Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Cwm Unig a Chaniadau Eraill.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aros, fy Mhrydferth, yn hir, yn hir,
A balm dy wefus yn dofi clwy,
A'th fardd ar goll ym mhellterau hud,
Heb ofyn cysgod magwyrydd mwy.

Paham y'th hoffais, ddihafal fun?
Gofyn i'r clogwyn ar drothwy'r wawr;
Gofyn i'r eithin ar fin y nant,
Wyt ferch y mynydd a'r oriau mawr.