Tudalen:Y Cychwyn.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwragedd a phlant anghenus. Ac unwaith y câi mab Dafydd Ellis y cyfoeth hwnnw i'w ddwylo, fe'i gwariai, fo a'i dad a'i frodyr a'i gyfeillion ysgymun, ar y ddiod felltigedig 'na. Na, meddai Emily, yr oedd Tyddyn Cerrig yn mynd yn wag, a threfnodd Bob a hithau i brynu gweddill y lês. Ofnai hyd yn oed Owen Gruffydd y penderfyniad a'r sicrwydd tawel yn ei llais.

Wedi'r briodas, ffromodd yn aruthr ac nid âi ar gyfyl Tyddyn Cerrig, a surodd yn fwy pan alwyd y baban cyntaf yn 'Ddafydd' ar ôl ei daid arall. Dôi Emily i Dŷ Pella' weithiau a galwai Elin Gruffydd yn aml yng nghartref ei merch, gan wirioni uwch y plentyn, ond caledodd Owen Gruffydd ei galon, er y gwyddai'r rhai a'i hadwaenai orau ei bod hi ar dorri o'i fewn. Hyd yn oed pan anwyd merch a'i bedyddio'n 'Elin', ni liniarodd ei ysbryd i bob golwg, beth bynnag. A suddodd yn ddyfnach i'w elyniaeth tuag ato pan gyfarfu â Robert Ellis, a hwnnw'n bur feddw, ar y ffordd un nos Sadwrn yn ffodus, digwyddai twr o bobl fod gerllaw ar y pryd a gwahanwyd y ddau cyn i eiriau fynd yn ergydion. Ganwyd Enid ryw flwyddyn yn ddiweddarach, ond er i'w ferch fod yn beryglus o wael wedi'r enedigaeth, cadwai Owen Gruffydd draw o Dyddyn Cerrig er gwaethaf erfyniadau dwys ei wraig. Felly y parhaodd am dair blynedd arall, nes geni'r baban a enwyd yn 'Owen'. "Yr un ffunud â'i daid," oedd barn pawb a welai'r bychan, a chan roi ei falchder heibio brysiodd Owen Gruffydd i Dyddyn Cerrig un noson i'w weld. Gwyrodd uwch ei ben, â dagrau hapus yn ei lygaid, ac yna cododd ef o'i grud i'w anwylo. Daeth Robert Ellis i mewn, ac yr oedd aroglau diod yn gryf arno. Rhoes y taid y baban yn ôl yn ei grud a cherddodd allan heb ddywedyd gair.

"Mae o mor styfnig â mul," meddai Robert Ellis drannoeth wrth Robin Ifans, 'wag' y bonc.

"Nac ydi, wir, Bob, mul sy mor styfnig â fo," oedd yr ateb, a gofalodd Robin fod y ffraethineb yn cael cylchrediad da yn y