Tudalen:Y Cychwyn.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bonc a'r Twll. Cyrhaeddodd glustiau Owen Gruffydd a'i 'fuleiddio'n' fwy nag erioed.

Yr oedd Owen bach yn bedair oed cyn i'r wyrth ddigwydd. Dychwelodd Elin Gruffydd adref un hwyr a dweud bod rhyw bigyn ofnadwy yn ochr y plentyn. Gwthiodd Owen Gruffydd ddarn o bapur llwyd i'w boced, ac wedi rhoi mewn llestr lwyaid. fawr o driagl i'w thaenu arno, ymaith ag ef i Dyddyn Cerrig. Pan gyrhaeddodd yno, yr oedd y boen yn waeth a Robert Ellis ar fin cychwyn i dŷ'r meddyg. "Hy!" meddai'r taid, gan fynd ati fel un wedi hen arfer â dileu anghysuron o'r fath. A chyn pen chwarter awr, a'r pwltis o driagl a phapur llwyd ar ei ochr, yr oedd y bychan yn gwenu'n hapus ar ei daid. "Yr argian fawr!" meddai Robert Ellis mewn edmygedd syn. A bu'r ddau yn gyfeillion mawr wedyn.

Ar y prynhawn Mawrth hwnnw o Awst fel y cerddai Owen rhwng ei daid a Myrddin tuag ysbyty'r chwarel, sylwodd fod yr hen ŵr yn bur dawedog, fel petai rhyw bryder yn ei feddwl.

"Mae Now yn sâl isio mynd i'r chwaral, Taid," meddai Myrddin yn sydyn pan ddringent yr allt tua'r ysbyty.

"'Ydi o, 'ngwas i?... 'Rwan, Carlo, sa'n ôl, 'wnei di!"

"Ydi, wedi hen flino ar yr ysgol, medda fo."

"Felly yr on inna' yn 'i oed o. Yn iengach o lawar o ran hynny."

Bu tawelwch am dipyn. Disgwyliai Owen bregeth chwyrn ar fanteision addysg a siars i wneud yn fawr ohonynt, ond ni ddaethant, a cherddodd Owen Gruffydd ymlaen yn fud, fel petai'i feddwl ymhell. Yn fud ar wahân i'r sŵn a ddôi o'i wddf weithiau, yr un sŵn ag a wnâi Elias Thomas yn y Sêt Fawr wrth ategu sylwadau'r pregethwr. Ai cydsynio â'i feddyliau'i hun yr oedd?

"Do, mi es i i'r chwaral cyn bod yn ddeg oed," meddai ymhen ennyd, "ac am y nesa' peth i ddim. Os awn i â deunaw