Tudalen:Y Cychwyn.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fistar, yntê? Un garw ydi'r Robaits 'na, meddan' nhw i mi. Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim deud, na fedrwch? Ne' dyna ydw i'n feddwl, beth bynnag. 'Fydda' i ddim yn gwrando ar chwartar y petha' fydda' i'n glywad."

"'Roedd Jones y Sgŵl yn deud 'i fod o'n siŵr o ddŵad yn 'i flaen yn iawn yno. Mae'n blesar gweld 'i gopi-bwc o, medda' fo wrth y wraig 'cw. Dim blot ar 'i gyfyl o. Wel, 'roeddan ni'n benderfynol o'i gadw fo o'r hen chwaral 'na."

Yr oedd tipyn o gryndod yn llais Huw Jones pan atebodd. "Dydi'r chwaral ddim yn lle drwg i hogyn cydwybodol a gweithgar," meddai. "Ne' dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag. I hogyn fel Now 'ma. Dim ond blwyddyn sy er pan ddaeth o i'r bonc acw, a hiddiw dyma fo'n dechra' fel jermon fesul dydd. efo Lias Tomos a finna'. Swllt y dydd, ar ôl blwyddyn o rybela."

"Yr argian fawr!" meddai tad Cecil, gan gofio am yr arian a dalai ef i'r cyfreithiwr yn y dref.

Dyna hefyd a ddywedai'r lleill—wrthynt eu hunain. Edrychodd Dafydd ac Owen ar ei gilydd yn syn hwnnw oedd y tro cyntaf iddynt hwy glywed dim am y peth.

Daethant i waelod Lôn Serth cyn hir a dringodd Owen hi wrth ochr Elias Thomas.

"Un byrbwyll ofnatsan ydi Huw Jones," meddai'r hen flaenor ymhen ennyd. "'Roeddwn i ac ynta' wedi bod yn sôn am dy gymryd di fel jermon, Owen—ond ymhen rhai wythnosa', ar ôl iti gael tros flwyddyn fel rhybelwr. A 'rŵan, mae 'na fatar arall i'w ystyriad. Efalla' y bydd yn well gen' ti fynd yn jermon. at Dafydd a George Hobley. Chdi sydd i benderfynu hynny, Owen, 'machgan i. Fel y gwyddost ti, mi fedrwn ni fforddio talu i jermon, a'r graig wedi gwella cymaint yn ddiweddar."

Wedi iddynt groesi'r bont haearn ar ben Lôn Serth, aeth Ifan Rowlands i'r chwith tua Phonc Rowler a throes y lleill i'r dde drwy'r coed a heibio i'r Barics. Fel y gwnaethai'i dad flwyddyn ynghynt, rhoes Dafydd ei fysedd yn ei geg a chwiban