Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymraeg." Y mae ei gywydd i'r Llafurwr hefyd yn enwog—yn dangos mai'r llafurwr mwyn ar y maes ydyw sylfaen y byd.

Mynach oedd Siôn Cent, yn byw yn Kent- church, Sir Henffordd, ac yn ei anterth tua 1400- 1430. Y mae ôl syniadau diwinyddol yn drwm ar ei ganu.

Yr oedd Dafydd Nanmor ar ei orau tua 1460. "Saif," meddai'r Athro W. J. Gruffydd, "rhwng Dafydd ap Gwilym a Dafydd ab Edmwnd, rhwng y cynhyrfiad cyntaf, na fynnai ei gaethiwo ei hunan â gormod rheolau, â'r adwaith clasurol a ddaw bob amser pan fo'r bywyd ieuanc yn tynnu at y blynyddoedd nad oes iddo gymaint diddanwch ynddynt. ... Rhed cywydd Dafydd Nanmor fel yr afon lefn rugl, heb gyffro na thrwst ac heb golli dim o’i gloywder grisialaidd."

Fe ddywedir bod Lewis Glyn Cothi, oedd ar ei orau tua 1450, yn swyddog milwrol, ac iddo, fe ddichon, ymladd yn Rhyfel y Rhosynnau. Y mae ganddo lawer cywydd yn dilyn ffawd y Tuduriaid. Fe welir oddi wrth ei gywyddau hefyd ei fod yn hen gyfarwydd â'r gororau, o amgylch Caer a Fflint. Yn y ddau gywydd yn y llyfryn hwn fe welir dwy ochr ei ddawn,—ei ddawn i wawdio a melltithio Saeson Ffint am chwennych gwrando William Bibydd yn hytrach na gwrando arno ef yn canu awdl gyda'r delyn; a'i dynerwch dwys yn ei farwnad i Siôn y Glyn, ei fab bach pum mlwydd oed. Sylwer ar gyfanwaith gorffenedig ei gywyddau.