Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i glomendy gloyw, maendwr ;
Pysgodlyn, cyryglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau,
Amlaf lle caid heb ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A’i dri bath ar adar byw
Peunod, cryhyrod hoywryw.
A’i gaith a wna bob gwaith gwiw,
Cyfreidiawl; cyfryw ydiw
Dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau, bragodau brig
Pob llyn, bara gwyn a gwin ;
A’i gôg, a'i dân, a'i gegin.
Pebyll beirdd, aed pawb lle bo,
Pe beunydd, caiff pawb yno.
A gwraig orau o'r gwragedd,
Gwyn 'y myd o'i gwin a'i medd!
Merch eglur, llin marchoglyw,
Urddol hael o reiol ryw.
A'i blant a ddeuant bob ddau,
Nythaid teg o benaethau.
Anawdd yn fy nydd yno
Weled na chlicied na chlo,
Na phorthoriaeth, nid aeth neb,
O bai eisiau, heb woseb,—
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth.
Gorau Cymro, tro traglew
Piau'r llyn, pwer y llew ;
Gŵr meingryf, gorau mangre,
A phiau'r llys, hoff yw'r lle!