Tudalen:Y Cywyddwyr Llyfrau'r Ford Gron.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

AM ddau can mlynedd wedi marw Dafydd ap Gwilym, tad y mesur cywydd, fe gododd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o feirdd i ganu ar y mesur, ac i'w loywi a'i berffeithio.

Yn wir, fe gyrhaeddodd barddoniaeth gaeth Gymraeg ei man uchaf yn ystod y ddau can mlynedd hyn (sef, yn fras, rhwng 1400 a 1600). Y mae'n gyfnod gwir glasurol—y meddwl yn graff a grymus, y teimlad yn fynych yn dyner, a'r mynegi'n hynod o gain. Yr oedd gan y beirdd feistrolaeth wyrthiol ar eiriau, meistrolaeth na welwyd mo'i thebyg wedyn nes daeth T. Gwynn Jones.

Llywelyn Goch Amheirig Hen ydyw'r cyntaf a enwn. Yr oedd ef yn byw yn Nannau, ger Dolgellau, ac yn canu cyn 1400. Y mae ef yn nodedig am ei farwnad i Lleucu Llwyd—rhyw fath o serenade i ferch yn ei bedd. Fe ddaeth hon mor enwog nes i ganu marwnadau i ferched fynd yn ffasiwn. Mynych y gwelir yn rhai o'r marwnadau diweddarach y coegni a'r "teimlad gwneud" a'r gor-ddywedyd sy'n dangos mai o ran ffasiwn y'u canwyd.

Yr oedd Iolo Goch wedi marw cyn 1400 hefyd. "Gŵr hoff o dawelwch mynachlog a phlas, gŵr hoff o lyfrau a myfyrio arnynt," ydoedd ef. Yr oedd yn fardd i Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, ac y mae ei gywydd sy'n darlunio llawnder Sycharth wedi ei alw yn un o'r cywyddau hapusaf yn