Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arth, y llew, yr asp, mwyach wedi eu newid yn eu naturiaeth. Ond ni all fod heddwch gyhyd ag y pery y blaidd yn flaidd, yr arth yn arth, ac felly yn y blaen. Gwel y doeth hyn yn y man. Ni all Ewrop gael heddwch tra y pery y German yn flaidd, arth, llewpard, llew ac asp. Y mae hyny yn brofiad; nid tyb yw.

Testyn rhagorol cyfrol neu ddwy fyddai hanes tybion yr oesau, a chymerai i fewn lawer o oesau, a chymerai i fewn lawer o oesau Cristionogaeth yn estyn i fyny hyd yn nod i'n dyddiau ni, oblegid y mae llawer o dybion yn ein hoes oleu ni. Nid yw profiad eto wedi dod i'w barch dyledus. Nodwn rai o honynt yma—rhai digon dyddorol i alw am sylw ac ystyriaeth y darllenydd.

Tyb fu ac sydd mewn bri heddyw yw y parch ga henafiaeth, yr hyn o'i ystyried a brofa beth mor hudol yw tyb. Y mae henafiaeth wedi bod mewn parch ac awdurdod annghyffredin iawn; ar y sail ei fod yn hen, yr hyn nid yw! Deuai golygiadau ac athrawiaethau yr amser gynt i lawr i ni fel pethau i'w parchu a'u hanrhydeddu ar gyfrif eu hender; fel y perchir henaduriaid o herwydd eu profiad. Credir fod yr hen yn fwy profiadol ac yn ddoethach na'r ieuainc, ac felly ystyrir hwy yn awdurdod ar bethau. Cyfrifid oesau diweddarach yn ieueng-