Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ach a mwy di-brofiad, ac felly yn ffol a rhyfygus i ddwyn eu golygiadau a'u barnau eu hunain i'w rhoi yn lle eiddo henafiaeth. O herwydd hyn, ceid yr oesau gynt yn geidwadol iawn; yn ymlynu o oes i oes wrth ddysg y tadau; pob gwlad o'r braidd yn gwrthwynebu pob newydd-deb mewn dysg ac athrawiaeth. Henafiaeth oedd yn iawn; y goel oedd mai y tadau gynt oeddynt y doethaf; ac ar y goel hon y seilid y golygiad dyeithr fod y byd yn gwaethygu ac yn ymddirywio o oes i oes; fod gwybodaeth yn myned waeth waeth; y dylem ni gredu ein bod lawer yn ffolach na'r tadau; na ddylid cymeryd dim a gynygir i ni o newydd, ac fod pob ffasiwn newydd yn beryglus a phechadurus (ac y mae rhai hefyd).

Nid yn unig credid hyn gan y bobl gyffredin anwybodus, eithr defnyddid yr egwyddor hon gan lywodraethau a chyfundrefnau crefyddol paganaidd a Christionogol fel ffordd effeithiol i gadw y werin yn llonydd a diawydd am ddiwygiad. Gelyn penaf henafiaeth oedd y diwygiwr; y rhyddfeddyliwr, y dyn a feddyliai drosto ei hun; y truan a ameuai anffaeledigrwydd henafiaeth, ac a anturiai gyhoeddi rhywbeth newydd i'w oes. Galwn ef yn 'druan' am mai carchar neu angeu oedd ei wobr, yn hwyr neu hwyrach. Dywedai un o ddoethion gwareiddiad