Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhufain gynt na ddylid newid dim yn y cylch crefyddol, ac ebe un o'r ymerawdwyr, dylai y mab wisgo dillad ei dad, a'r ferch wisg ei mam. Dyna oedd athrawiaeth anffaeledig henafiaeth. Yr hyn allai diwygiwr ddysgwyl yn mhob gwlad (hyd yn ddiweddar) oedd cortyn am ei wddf neu dan i'w losgi.

Pan yr ystyriom mai ar dyb y seilid cymaint o wybodaeth, a chrefydd henafiaeth, gellid tybio y croesawid dyn a gynygiai rywbeth newydd, gan na ellid dysgwyl gwellhad o unrhyw fath heb ryw gymaint o newidiad. Rhaid newid i wella; ond wedi'n, pa wella ellid ar bethau wedi eu cael i waered oddiuchod, o'r lle y daeth pob daioni a bendith? Y dyb hon safai ar ffordd pob diwygiad. Felly hawdd yw canfod mai y rhwystr i wareiddiad oedd y goel mai dwyfol o darddiad oedd dysg, a chrefydd a sefydliadau y tadau. Ond myned yn ol yn ddigon pell, elid i bresenoldeb Duw neu y duwiau. Yr oedd y gwroniaid a'r enwogion oll a sefydlasant deyrnasoedd y ddaear yn blant y duwiau o dduwiesau neu o fenywod. Gelwir y Mikado o Japan yn Fab y nefoedd, ac y mae "Mich und Gott" y Kaiser wedi dod yn ddiareb. Yn y man y daw dyn i gredu nad oes a fyno Duw a'r Kaiser a'r Swltan, &c., myned fydd rhaid i'r dyhirod creulon ac aflan. Felly pan y codai unrhyw ameuaeth, elid yn