Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"The supreme vice is shallowness," ebe rhywun; a'r drwg nesaf i'r pechod gwreiddiol yw y meddwl arwynebol, yr hwn yw creawdwr tybion. Y mae mor hawdd tybio, ac mor anhawdd chwilio a phrofi! Cyferfydd tyb a phrofiad a ni ar hyd holl ffyrdd bywyd; yr hyn a eilw yr hen Bunyan yn "Ffair Gwagedd," drwy yr hon yr ai y pererinion heb brynu dim. Ymddengys tyb fel hwylio gyda'r llif hyd nes y deuir wyneb yn wyneb a'r creigiau, lle y cyferfydd profiad a ni, ac y gwelwn ein holl gamgymeriadau. Y mae ein tybion yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'n trallodion a'n gofidiau, a chwareuant ran fawr o fewn cylch ein crefydd, er mai ei phrif ddyben yw ein cael i adael ein tybion a dewis doethineb.

Tyb yw llawer o'r ffydd gyffredin. Y goel yw y gwareda ffydd o ryw fath y pechadur; rhyw fath o dyb-ffydd mewn rhyw fath o dyb-egwyddor neu dyb-olygiad am ryw dyb-waredwr. Nid rhywbeth i'w gael oddiallan yw bywyd, eithr allan o honom ein hunain. Ynom ni y mae y bywyd, gan fod Crist ynom; ac ynom y rhaid i ni gael y ffordd a'r gwirionedd. Nid y tu allan i ni y mae y Gwaredwr, a'i ras, a'i deyrnas, eithr o'n mewn. Hen dyb baganaidd yw hono mai oddiallan i ni y mae Duw; fod y nefoedd uwch ben; fod bywyd yn beth allanol i'w gael oddiallan; fod pobpeth yn estronol i ddyn,