Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan y mae y cyfan o'i fewn, ond iddo gael y gras o ymwybyddiaeth. Tyb yw y goel allanol; y wir gred yw ymwybyddiaeth; y gwir oleuni yw ymwybyddiaeth; yr unig ras gwerth ei gael yw ymwybyddiaeth, sef Duw ynom. Nid rhywbeth i'w weled a'i glywed a'i gofio yw gwirionedd, eithr ymwybyddiaeth. Dyna olygai yr Iesu wrth y ffynon yn tarddu i fywyd tragwyddol; ffynon o fywyd yn llifo trwy fywyd i fywyd.

Rhaid i beth ddechreu yn fywyd cyn y gall fod yn fywyd. Felly nid tyb, na choel, na chred, na gwybodaeth, na dysg (yr oll, feallai, yn dybion), yw bywyd, eithr ymwybyddiaeth, a phrofiad yw a'i cenfydd. Chwyn yw tybion. "Experience is by industry achieved," ebe Shakespeare. Un o gamgymeriadau oesau tyb yw y gellid cael pethau drwy weddio heb weithio, a ffyna llawer o weddio disynwyr yn ein hoes ni." "Tis greatly wise," ebe un, "to talk with our past hours." Ein bywyd blaenorol yw ein hysgol oreu. Y dyn ni sylwa, ni ddysg, ac ofer dysgwyl oddiwrth Dduw bethau o fewn ein cyraedd ni ein hunain.

Y mae yr ofer weddiwr fel y dyn hwnw yr aeth ei wraig o gartref, a phob dydd anfonai lythyrau yn gofyn lle yr oedd y peth hwn a'r peth arall, a phan y daeth hi yn ol, rhoddai bob peth yn ei