Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

profiad yn nghynydd aruthrol yr oes bresenol mewn darganfyddiadau yn ychwanegu at brofiad a gwybodaeth, cyfleustra a chysur bywyd. Ni ellir cyraedd gwybodaeth sylweddol ac ymddiriedol drwy dybio; a'r ffordd iawn ac ymarferol yw sylwi a phrofi. Y mae yn wir ddyddorol sylwi mai pan yn tybio y ffynai y goel o anffaeledigrwydd, ac wedi dechreu sylwi a chwilio a phrofi y dechreuwyd ameu anffaeledigrwydd. Oesau y beirdd oedd oesau y tybio. Dywed Shakespeare fel hyn am y bardd:

"Mae'r lloerig gyda'r carwr claf ei fryd
A'r bardd mewn tybio yn gytun i gyd.
Gwel un o ddiafliaid fwy o hyd nag sy'n
Yr uffern fawr. Efe yw'r gwallgof ddyn,
Y carwr yntau ar ei serchwyllt hynt
Wel yn yr Aifftes lendid Elin gynt;
A'r bardd a'i drem yn chwyldroi yn ei ben,
O'r nen i'r ddae'r ac yna o'r ddae'r i'r nen,
Ac fel y try ei dyb bob peth i lun
A rhith na welodd neb, y bardd ei hun
A'u try i ffurfiau, ac fe rydd efe
I ddim ond tybion enwau'n nghyd a lle."


Ond darlunia Shakespeare brofiad gyda'r un gallu tarawiadol: