"O, pwy a all ddal tan ar dor ei law
Wrth feddwl am yr oer Gaucasus draw?
Neu dori gwancus chwant am fwyd drwy ffydd
Drwy ond dychymygu am ryw wledd nag sydd?"
Dyna feddyliai y gwr profiadol pan y sylwai ar dybion a dychymygion, "Not my thought, not your thought, or somebody else's thought, but thought," sef profiad; a hyn feddylir, yn ddiau, wrth ffydd, sef profiad, a dywed yr Apostol, "Profwch yr ysbrydion."
Gellid galw y cynoesau yn oesau y "tybio" a'r "dychymygu."Ychydig o ddim profi a gwyddoni oedd. Yr oedd cylch gwybodaeth sylweddol yn gul iawn; ond ni foddlonid ar hyny, eithr llenwid y diffyg a thybion. Cymerer seryddiaeth, er engraifft; ychydig a wyddid am danynt; eto adeiladwyd cyfundrefn eang a dyrys o seryddiaeth a chwedlau dyddorol. Seilid y cyfan ar dybion a dychymygion. A'r un modd gyda phob dysg a gwybodaeth. Y Groegiaid oedd y rhai cyntaf i dalu sylw i wyddoniaeth i wybodaeth drwy chwilio a phrofi; ond nid oedd y meddwl dynol wedi ymddadblygu yn ddigonol i feddu hoffder o chwilio. Yr oedd eto yn blentynaidd. Cymerer daearyddiaeth y cynoesau a gwybodaeth o'r ddaear heddyw. Yn