Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cynoesau ni wyddent lun a ffurf gwledydd adnabyddus, ond eto ni ddigalonent, eithr gwnaent ddesgrifiad o honynt, dychymygol gan mwyaf, a gwnaent ddarlun o'r gweddill o honynt na wyddis dim am danynt. I dyb yr oedd y ddaear yn wastad; i brofiad y mae yn gron. Gofynai lawer o brofiad cyn cael allan mai cron yw. Ar sail y meddwl cyntaf, gwastad yw i'r llygad a'r deall cyntefig; i'r meddwl dadblygedig, ac i'r deall o brofiad, cron yw, ac esbonia ei chrynder nifer o ddirgeledigaethau dyrys, a dywedir i'r darganfyddiad syml hwn chwyldroi seiliau athroniaeth a duwinyddiaeth.

Y mae y rhyfel presenol yn awgrymiadol, a gwasga yn drwm iawn ar feddwl y byd y ffaith fod Crist hyd yma wedi bod yn allanol, megys yn sefyll ac yn curo wrth ddrws argyhoeddiad ac ymwybyddiaeth y byd, a saif yn ffaith amlwg a phendant mai peth allanol ac estronol fu Cristionogaeth hyd yma; rhywbeth y clywid ac y sonid am dano, yn hytrach na dim wedi dyfod i fewn i'r bywyd a'r argyhoeddiad. Cristionogaeth allanol yn curo fu un ein heglwysi a'n capeli a'u hathrawiaethau a'u credoau a'u proffesiadau i raddau uchel hyd yma; rhyw genadwri ogoneddus fel rhyw degan mawr a fawrygid ac a edmygid gan y gwledydd, ond na chroesawid i'r galon oedd. Hen, hen hanes oedd a