rheoli meddyliau plant dynion heddyw yn ol graddau eu hanwybodaeth a'u gwybodaeth. Y mae dyn o gread cyfrin-sylwedd yw ei sylfaen, a thybiaeth fu ei gwymp. O herwydd ei ddiffyg profiad a'i anwybodaeth, aeth a'r gyfeiliorn gyda'i dybion, ac aeth i dybio ei dybion yn anffaeledig, yr hyn a'i maglodd yn fwy fyth.
Y mae ei fywyd hyd yma wedi bod yn glirio y domen oddiar wyneb y trysorau cuddiedig o'i fewn, a phan y dyfnha ei brofiad yn ddigonol, daw drwy dybion yr Adda Cyntaf i lawr at brofiad Adda yr Ail sydd wrth wraidd ei natur. Hyd yma bu yn crwydro gyda'i ddychymygion; heddyw y mae yn dechreu ymddiried yn ei brofiad. Po fwyaf ei brofiad, mwyaf y daw seiliau ei natur i'r golwg. Y mae coel ac anwybodaeth yn debyg i'r pridd a'r ceryg, a'r dyrysni a'r chwyn ar wyneb y ddaear, yr hyn a ellir alw yn domen y byd; islaw y mae yr haiarn, a'r plwm, y copr, yr arian, yr aur, a'r olew, a thrysorau eraill. Y mae seiliau y natur ddynol yn gedyrn; yn yr oruwchadeiladaeth y mae y drwg. Y profiad yw y ffordd, y gwirionedd a'r bywyd; ac ar hyd y ffordd hon y rhaid i ni deithio yn nghymdeithas Adda yr Ail, a deuwn at Graig yr Oesau. Gwirionedd yw hollolrwydd profiad.
Y profiad yw yr enaid ei hun; a thraddodiad yw