Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Myfi, a thydi, a phob dyn,
Yn natur sut bynag un yw,
Mae Eden, a'r diafol, a'r sarff
(Fath gwmni!), a gyda hwy, Duw;
A'r pechod a'n drygodd mor fawr,
A'r drwg—da ddaw'n don ar ol ton;
Mae'r oll yma'n nghadw gen i
I'w deimlo o hyd dan fy mron!

I'r dwyrain ni aethym erioed
I chwilio am Eden y Dyn;
Cyfleusach yw pob peth gen i
Yn gryno fe'u caf hwy bob un;
Ni chwiliaf mewn llyfrau am dim,
Fan hon y mae'r holl ddynol ryw:
Gardd Eden o hyd dan fy ngrys,
A phrofiad o ddiafol a Duw.

Ni chodaf fy llygad i'r nef
I chwilio am gymorth fy Nuw;
Yn nes na'r afagddu mae'r drwg—
Mor agos bob amser im' yw;
Mae amnaid yn alwad i'r fall—
Dymuniad yn weddi i Dduw;
Ac felly'n fy Eden bob dydd
A bob nos 'rwyf beunydd yn byw!