Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Ddau Adda.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn werth sylwi mai cynyrch profiad yw y gallu i werthfawrogi profiad. Bu y byd am lawer o oesau heb ganfod gwerth profiad, a hyn ganfyddir heddyw gan yr ystyriol pan yn tramwyo yn mhlith dynion. Cenfydd na roddir hyd yn nod heddyw ei le i brofiad. Tybion a dychymygion gant y sylw a'r parch. Adeiladwyd crefydd ac athroniaeth ar draddodiad, sef tybion a dychymygion y tadau o ddechreu amser, neu oesau y byd. Dylynid y tybion hyn i bob cyfeiriad, a chyfrifid y tybion hyn gan mwyaf yn ddadguddiadau oddi uchod. Y mae yn ddyddorol sylwi fel y coelid fod y tybion hyn o darddiad goruwch ddynol, am y tybid mai Duw oedd yn meddwl yn y meddwl dynol. Dyna dybid am ddyn gwybodus ( yn ol ansawdd ei wybodaeth ), ei fod yn cael ei feddyliau oddiwrth Dduw neu oddi wrth ddiafol, ac yn rhy fynych, tybid mai dysgybl y diafol oedd y dyn a'r wybodaeth newydd, a sail golygiad o'r fath oedd diffyg gwybodaeth a phrofiad. Cythraul feddianai bawb a addysgent rywbeth newydd i'r byd!

Y rheswm am hyn oedd y seilid gwybodaeth ar dybion yn lle ar brofiad. Wedi dyfodiad Cristionogaeth i Ewrop, aeth tybion Paganiaeth dan anmharch, a daeth rhai fawr gwell Pabyddiaeth i fri; priodolid tybion y paganiaid i ysbrydion drwg; yn