ddiweddarach, priodolai y Protestaniaid dybion y Pabyddion i ysbrydion tebyg; ac eto, y gwahanol enwadau dybion hereticaidd eu gilydd i gyffelyb achosion. Drwy holl gyfnodau tybion, yr oedd yn berygl meddwl o newydd; tybio oedd yn iawn, ond tybio yn gyson a'r hen dybion dybid oeddynt yn iawn; ac yr oedd tybio yn iawn-dybiol mor boblogaidd ag ymresymu.
Anwybodaeth ac anmhrofiad oedd maes cnydiol tybio; ond gyda chynydd gwybodaeth daeth y gyneddf o sylwi, ac yn raddol daeth y meddwl ystyriol a phwyllog i ' werthfawrogi profiad, sef chwilio i fewn i bethau a ydynt fel y tybid eu bod. Yr oedd yr hen dybwyr a rhagfarn gref a ffyrnig yn erbyn chwilio. Adroddir wedi i Galileo ddyfeisio y pellwydr ei fod yn cymell dysgawdwyr eglwysig—offeiriaid a mynachod ei oes i edrych drwyddo er iddynt gael gweled drostynt eu hunain, ond ni wnaent, eithr ymgynddeiriogi yn fwy, am fod arnynt ofn y gwrthbrofid eu tybion cysegredig.
Peth diweddar yw seilio gwybodaeth ar brofiad. I fyny hyd ddyddiau Arglwydd Bacon, ar dybion ac ar resymeg seiliedig ar dybion yr adeiledid athroniaeth a duwinyddiaeth, ac ysgrifenodd efe ddau lyfr gwerthfawr i ddangos y perygl a'r oferedd o dybio, a'r budd o chwilio drwy brofiad a gofal am seiliau cedyrn i wybodaeth, ac o'i ddyddiau ef hyd